Mae Cyngor Wrecsam yn gyffrous i gyhoeddi bwletin wythnosol newydd i helpu pobl arbed ynni. Mae’r bwletin hwn yn ymwneud â newidiadau bychain a all wneud gwahaniaeth mawr. Rydym eisiau helpu pawb i leihau eu defnydd ynni ac arbed arian ar filiau.
Bob wythnos, byddwn yn canolbwyntio ar un peth y gallwch chi ei wneud gartref i ddefnyddio llai o ynni. Byddwn yn egluro pam fod hyn yn bwysig a sut allwch chi wneud hyn. Mae’n golygu gwneud pethau’n haws i chi er mwyn helpu’r amgylchedd..
Isod mae rhestr o bethau y byddwn yn trafod pob wythnos. Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni i wneud Wrecsam yn le mwy gwyrdd ac arbed ynni gyda’n gilydd.
- Golchi dillad pan fydd llwyth llawn yn unig.
- Sychu dillad yn naturiol yn hytrach na defnyddio peiriant sychu dillad.
- Dim ond rhoi hynny o ddŵr sydd ei angen arnoch yn y tegell.
- Diffodd y golau pan fyddwch yn gadael ystafell.
- Amnewid sbotoleuadau halogen gydag LEDs.
- Gwneud ffenestri a drysau yn wrth-ddrafft.
- Dim ond rhoi’r peiriant golchi llestri ymlaen pan mae’n llawn
- Diffodd y tap pan fyddwch yn glanhau eich dannedd.
- Newid pen y gawod i un sy’n fwy effeithlon o ran dŵr.
- Os oes gennych ardd mae casgen ddŵr yn ffordd wych o gasglu dŵr glaw am ddim a ellir ei ddefnyddio i ddyfrio’r ardd.
- Diffodd eich dyfeisiau yn y wal a pheidio eu gadael ar ‘standby’.
- Treulio llai o amser yn y gawod.
- Osgoi gadael drysau oergell/rhewgell ar agor am gyfnodau hir.s
- Defnyddio ffynonellau gwres naturiol, megis agor y llenni i adael golau dydd i mewn, ond hefyd sicrhau eich bod yn cau’r llenni yn y nos i gadw’r cynhesrwydd i mewn.
- Gostwng falfiau rheiddiaduron thermostatig i’r pwynt canol.
- Rhoi mwy o inswleiddiad.
- Gosod paneli rheiddiadur sy’n adlewyrchu ac ychwanegu ffilm i’ch ffenestri.
- Pan fyddwch yn prynu dyfais newydd ar gyfer eich cartref, chwiliwch am y label ynni.
- Gosod mesurydd clyfar.
- Paneli Solar.
Cadwch lygaid am ein bwletinau wythnosol ar Nwyddion Cyngor Wrecsam, lle byddwn yn egluro manteision yr awgrymiadau uchod!