Mae’r bwyd sy’n gallu cael ei weini mewn ysgolion yn newid fel bod gan bob plentyn yng Nghymru gyfle i fwyta deiet cytbwys yn yr ysgol.
Mae ymgynghoriad wedi lansio i geisio barn ar y cynigion a fydd yn gweld bwydlenni ysgolion cynradd yn cynyddu ffrwythau a llysiau, gan helpu mwy o blant Cymru i gael eu pump y dydd, a chyfyngu ar bwdinau siwgr a bwydydd wedi’u ffrio, yn unol â chanllawiau deietegol y DU.
Bydd y cynigion newydd yn sicrhau bod plant yn cael cynnig bwyd a diod ysgol sy’n gytbwys o ran maeth, a bod bwyta’n iach yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion gyda’r nod o wella iechyd, lles a chyrhaeddiad.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod plant, ar gyfartaledd, yn bwyta gormod o siwgr ac nad ydynt yn bwyta’r symiau a argymhellir o ffrwythau, llysiau a grawn cyflawn. Mae hyn yn cyfrannu at broblemau iechyd fel gordewdra plentyndod ac ar hyn o bryd mae un o bob pedwar o blant oedran derbyn yn cael ei gategoreiddio fel bod dros bwysau neu’n ordew.
Mae camau’n cael eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Roedd strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach yn ei gwneud yn ymrwymiad i Llywodraeth Cymru adolygu’r rheoliadau ar faeth bwyd mewn ysgolion sy’n berthnasol ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Nawr bod cyflwyno prydau ysgol cynradd cyffredinol am ddim yng Nghymru wedi’i gwblhau, mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r ymrwymiad hwn, gan ddechrau gydag ysgolion cynradd.
Dywedodd ysgrifennydd y cabinet dros addysg, Lynne Neagle: “Mae maeth da yn hanfodol i helpu pobl ifanc i berfformio ar eu gorau – boed hynny yn yr ystafell ddosbarth, ar y cae neu wrth fynd ar drywydd eu nodau. Bydd ein newidiadau ar sail tystiolaeth i reolau bwyd ysgol yn helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant Cymru wrth gefnogi cynhyrchwyr o Gymru a meithrin cenhedlaeth o fwytawyr iach i ddiogelu dyfodol ein GIG.
“Mae ysgolion a thimau arlwyo ledled Cymru eisoes yn gweithio’n galed i ddarparu prydau maethlon i’n plant a’n pobl ifanc. Rydym am adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn digwydd i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru gyfle i gael bwyd iach. Dyna pam rydw i eisiau clywed gan rieni, athrawon, cyflenwyr a phobl ifanc. Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn gallu creu safonau bwyd ysgol sy’n gweithio i bawb – gan gefnogi iechyd ein plant heddiw ac ar gyfer eu dyfodol.”
Dywedodd Rachel Bath, ymgynghorydd iechyd y cyhoedd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu’r cynigion hyn ar gyfer ysgolion cynradd. Rydym yn gwybod o’r dystiolaeth bod safonau bwyd ysgol yn gallu effeithio’n gadarnhaol ar iechyd a lles plant pan gaiff eu defnyddio ar y cyd ag amrywiaeth o ddulliau. Mae cryfhau’r Rheoliadau hyn yn gam hanfodol i sicrhau bod bwyd ysgol yn cefnogi arferion bwyta iach gydol oes. Rydym yn gwybod bod gwaith i’w wneud i roi cyfle i bob plentyn gael prydau maethlon ynghyd ag addysg bwyd a phrofiadau bwyta cadarnhaol. Yn ogystal â chefnogi iechyd plant, mae’r newidiadau hyn yn cyfrannu at system fwyd ac economi leol fwy cynaliadwy. Gyda chydweithrediad parhaus a goruchwyliaeth glir, mae bwyd ysgol yn gallu bod yn sbardun pwerus i iechyd a lles hirdymor yng Nghymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae gwelliannau iach i fwydlen yr ysgol yn cael eu croesawu’n fawr, felly byddwn yn annog pawb i rannu eu barn trwy gyfrannu at yr ymgynghoriad. Rydym yn gwybod bod teimlo’n llwglyd yn yr ysgol yn effeithio ar berfformiad dysgwyr, felly mae cyflwyno’r Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd wedi bod yn llwyddiant mawr wrth fynd i’r afael â’r mater hwn. Gwelliannau pellach i werth maethol y prydau hyn yw’r cam nesaf i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i fwyta bwyd iach, yn hytrach nag unrhyw fath o fwyd yn unig.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.