Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf…
Y cyngor

Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf…

Diweddarwyd diwethaf: Mai 22, 2025 4:01 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf...
RHANNU

Fel rhan o’r gwaith parhaus i adnewyddu, adfer a diweddaru’r Hen Lyfrgell, bydd craen yn cael ei leoli ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth er mwyn codi goleuadau to i’w lle.

Disgwylir i’r gwaith i drawsnewid yr Hen Lyfrgell gostio ychydig dros £4 miliwn sy’n fuddsoddiad sylweddol arall yng nghanol dinas Wrecsam gyda’r cyllid ar gyfer y prosiect yn dod o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ynghyd â chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Bydd gan yr adeilad rhestredig Gradd II rôl newydd yng nghanol y ddinas fel pwerdy diwydiannau creadigol, gan ddarparu gofod rhentu hyblyg hirdymor a byrdymor i sefydliadau ac unigolion yn y sector a fydd yn rhoi hwb i uchelgeisiau creadigol a diwylliannol Wrecsam.

Bydd yr eiddo’n cynnwys dau lawr o ofod rhent y gellir ei ddefnyddio fel gweithdai, swyddfeydd a mannau arddangos. Bydd yr adeilad hefyd yn cynnwys caffi gydag ardaloedd eistedd awyr agored.

Bydd yr Hyb Creadigol yn hwyluso cyfleoedd newydd ar gyfer carfan gynyddol o weithwyr creadigol proffesiynol ar draws Gogledd Cymru a bydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng y sector, sefydliadau addysgol lleol a busnesau yn ogystal ag arddangos y celfyddydau a thechnoleg.

Mae’r gwaith sydd wedi’i gwblhau ac sy’n mynd rhagddo yn y llyfrgell yn cynnwys:

Gwaith atgyweirio i’r clochdy, ailosod pren a llechi ar y to, gwaith plwm ar feini copa’r drychiadau, gwaith maen fel atgyweirio silffoedd – yn ogystal ag adnewyddu ffenestri metel presennol.

Mae gwaith daear ac adeiladwaith dur ar yr estyniad gwydrog yn parhau gyda’r to gwydr a’r waliau wedi’u cynllunio i’w darparu a’u gosod o 2 Mehefin.

Yn fewnol, mae’r gwaith stripio, plastro ac atgyweirio yn mynd rhagddo fel rhan o’r rhaglen a bydd lifft yn cael ei osod yn ystod yr wythnos nesaf.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam a’r Aelod Arweiniol dros Asedau, y Cynghorydd Mark Pritchard, 

“Bydd ein buddsoddiad yn dod â’r adeilad rhestredig Gradd II amlwg hwn yn ôl i ddefnydd cyhoeddus, gan wasanaethu fel canolbwynt i’r diwydiannau creadigol yng nghanol Wrecsam. “Mae’r Hen Lyfrgell wedi chwarae rhan bwysig iawn yn ein gorffennol a bydd y cynllun adfywio llawn dychymyg hwn yn rhoi bywyd newydd iddi ac yn sicrhau y bydd yn chwarae rhan yr un mor bwysig yn ein dyfodol.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Nigel Williams, “Mae’r prosiect hwn yn un o’r ymrwymiadau a’r buddsoddiadau niferus rydyn ni’n eu gwneud i wella seilwaith ac apêl Wrecsam fel cyrchfan a dinas uchelgeisiol a bywiog.”

Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf...
Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf...
Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf...
Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf...
Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf...
Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf...
Dyma pam y bydd craen ar Sgwâr y Frenhines ddydd Mawrth nesaf...
Rhannu
Erthygl flaenorol Bwyd iach i ysgolion Bwyd iach i ysgolion
Erthygl nesaf 20mph Adolygiad o Derfynau Cyflymder 20mya – Diweddariad

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English