Erthygl Gwadd – Freedom Leisure
Mae Freedom Leisure, un o ymddiriedolaethau hamdden nid er elw blaenllaw y DU sy’n rheoli Byd Dŵr Wrecsam ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn falch o gyhoeddi ei fod ar restr fer am ddwy wobr yn y Gwobrau Ffitrwydd Cenedlaethol sydd ar fin digwydd.
Gwobrau Ffitrwydd Cenedlaethol yw’r gwobrau ffitrwydd mwyaf yn y DU sy’n rhad ac am ddim i gystadlu ynddynt, ac mae Byd Dŵr wedi ei enwebu am 2 wobr genedlaethol fawreddog wrth gael ei roi ar y rhestr fer yn y categorïau canlynol: Gym y Flwyddyn yr Awdurdod Lleol / Ymddiriedolaeth Hamdden a Gym y Flwyddyn Ymarfer Grŵp. Mae’r digwyddiad blynyddol yn cydnabod rhagoriaeth a chyflawniad pob gym ledled y wlad gyda’r cyfleusterau sydd ar y rhestr fer i’w canfod mor bell i’r gogledd ag Aberdeen ac chyn belled â Dyfnaint i’r de.
Mae’r gwobrau’n cael eu trefnu gan Script Events ar y cyd â phrif gylchgrawn ffitrwydd y diwydiant ffitrwydd, sef Workout, gyda chefnogaeth oddi wrth y prif noddwr ServiceSport, ac mae naw wedi cael eu dethol i fod yn y rownd derfynol ym mhob categori, a fydd bellach yn symud i’r cam nesaf o’r broses feirniadu ble y byddant yn ymdrechu i wneud argraff drwy arddangos y gwaith grêt sy’n digwydd yn eu clybiau wyneb yn wyneb â’r beirniaid.
Yn ystod y cam hwn bydd aelod o’r tîm gwobrwyo yn ymweld â phob un sydd yn y rownd derfynol, er mwyn llunio barn am y cyfleusterau a siarad â chwsmeriaid a staff cyn llunio adroddiad cynhwysfawr a fydd yna’n cael ei drosglwyddo ymlaen at banel beirniadu arbenigol i benderfynu pwy yw’r enillwyr ffodus.
Yna caiff tlysau eu cyflwyno gan un o athletwyr enwocaf Prydain, sef Derek Redmond mewn seremoni wobrwyo liwgar ddydd Gwener, 29 Tachwedd yn yr Athena yng Nghaerlŷr.
Dywedodd cyfarwyddwr digwyddiadau Gwobrau Ffitrwydd Cenedlaethol, Dominic Musgrave: “Mae’r Gwobrau Ffitrwydd Cenedlaethol yn eu 14eg flwyddyn bellach, ac â mwy nag erioed o’r blaen yn cystadlu, mae gwir reswm dros ddathlu gan ein goreuon yn y rownd derfynol, achos mae’n gamp enfawr eu bod wedi cyrraedd y rownd derfynol ac mae’n destament i’r timau sydd y tu ôl i bob un ohonynt.”
“Mae’n anrhydedd fawr ein bod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Ffitrwydd Cenedlaethol eleni” dywedodd Ivan Horsfall Turner, Prif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure. “Mae’r enwebiad hwn yn adlewyrchu gwaith caled ac angerdd ein holl dîm, sy’n ymroi i gael effaith gadarnhaol ar y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.”
Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal ar gyfer Freedom Leisure yn Wrecsam: “Mae’r tîm yn y Byd Dŵr wedi gweithio’n hynod o galed bob un dydd ac mae cael eu gosod ar y rhestr fer am ddwy wobr genedlaethol yn destament i’w holl angerdd ac ymroddiad i wella bywydau drwy hamdden.”
Mae Byd Dŵr Wrecsam yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys dosbarthiadau ffitrwydd a rhaglenni llesiant. Gwella bywydau drwy hamdden yw eu gweledigaeth, gan sicrhau fod eu cyfleusterau yn amgylchedd hygyrch, croesawgar a chefnogol i bawb.
Am ragor o wybodaeth am Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr a’i gwasanaethau, ewch i wefan Freedom leisure.
Am ragor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i National Fitness Awards