Bydd yn haws defnyddio bysiau Arriva Cymru i deithio o 6 Rhagfyr gan fod Arriva bellach wedi cyhoeddi y bydd rhagor o wasanaethau yn cael eu hychwanegu i’w hamserlen.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Diolch i Fysiau Arriva Cymru
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r holl bobl sy’n ddibynnol ar gludiant cyhoeddus a hoffwn ddiolch i Fysiau Arriva Cymru am eu gwelliannau parhaus i amserlenni gwasanaeth.”
Meddai Michael Morton, Rheolwr Gyfarwyddwr Bysiau Arriva Cymru: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu adolygu ein hamserlen i lefelau cyn Covid-19 i sicrhau fod pobl yn gallu teithio mor ddiogel ac effeithiol â phosibl. Bydd y rheolau cadw pellter cymdeithasol ar waith lle bynnag y bo modd, bydd gofyn i chi wisgo gorchuddion wyneb a gofynnwn i chi gadw at y canllawiau cyfredol er mwyn cadw staff a theithwyr yn ddiogel.”
Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â gwefan Bysiau Arriva Cymru. Cofiwch fod Covid-19 yn parhau i fodoli yn ein cymunedau, ac os oes arnom ni eisiau parhau i fwynhau ein rhyddid newydd, fel teithio, dylem wneud popeth o fewn ein gallu i osgoi sefyllfa a fyddai’n ymofyn tynnu’r rhyddid hwn oddi arnom.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG