Er eich bod yn gweithio mewn TGCh nid yw hynny’n golygu mai gweithio yn Silicon Roundabout Llundain yw’r swydd o’ch breuddwydion :-/
Os ydych yn weithiwr TGCh proffesiynol talentog a chreadigol ac yn chwilio am waith sydd ddim yn golygu treulio oriau mewn traffig trwm bob bore i gyrraedd yno, yna mae’n bosib iawn bod eich swydd nesa’ yn agosach i adref nag oeddech chi’n feddwl.
Fel y mae’n digwydd rydym yn chwilio am Uwch Ddadansoddwr Technegol i’n helpu i ofalu am weinyddion a diogelwch ein hysgolion.
Oes gennych chi ddiddordeb? Darllenwch fwy…
Prosiect cyffrous
Ym mis Gorffennaf 2019 fe gyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg yng Nghymru raglen cyllido gwerth £50m tuag at TGCh mewn ysgolion.
Bydd Rhaglen Trawsnewid Hwb yn newid y dirwedd o dechnoleg addysgol, ac os byddwch yn ymuno â’r tîm byddwch yn helpu i ddarparu isadeiledd digidol newydd ar gyfer 70 o ysgolion yn Wrecsam.
Bydd miloedd o bobl ifanc yn elwa o’r prosiect cyffrous hwn; byddwch yn gweithio ar-safle mewn ystafell ddosbarth prysur un diwrnod, ac yn cyflwyno atebion arloesol yn yr ystafell fwrdd ar ddiwrnod arall.
Mae hi felly’n rôl amrywiol a chreadigol sydd yn siŵr o roi boddhad swydd i chi.
GWNEWCH GAIS RŴAN
Y sgiliau sydd gennym mewn golwg…
Fel uwch aelod o’r tîm byddwch yn arwain ar lefel uchel o arbenigedd technegol ar weinyddwyr, LAN, diogelwch, cyflenwad wrth gefn a gwasanaethau cyfeiriadur gweithredol.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am wneud ymchwil ac argymell y prif gynnyrch a thechnolegau.
Wrth gwrs rhaid i chi feddu ar y profiad a’r cymwysterau priodol. Ond (ac mae hyn yn hynod o bwysig) byddwch hefyd yn frwdfrydig ac yn gallu rheoli eich amser.
Gyrfa sy’n talu + chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
Os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru, Caer, yr Amwythig neu Gilgwri, mae’n debyg eich bod o fewn pellter teithio rhwydd (mae gan Wrecsam gysylltiadau ffordd a rheilffordd dda iawn).
Ac os ydych yn chwilio am y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yna mae digonedd o resymau i wneud cais.
Er enghraifft, mae ein cynllun gweithio’n hyblyg yn golygu y gallwch gamu i ffwrdd o’r oriau 9 tan 5 arferol a gorffen yn gynt un diwrnod ac yn hwyrach ddiwrnod arall. Y bwriad yw darparu gwasanaethau ac ymateb i ofynion ein hysgolion….ond mae’r hyblygrwydd yn gweithio’r ddwy ffordd.
Byddwch hefyd yn derbyn lwfans gwyliau hael, mynediad i gynllun pensiwn da a buddion gweithwyr eraill.
Sut i wneud cais
Mae’r dyddiad cau i wneud cais ar 13 Mawrth (2020). Felly os oes gennych ddiddordeb ymuno â ‘Thîm Wrecsam’ yna ewch amdani.
Am fwy o wybodaeth, yn cynnwys manylion cyswllt am sgwrs anffurfiol ar y swydd ewch i’n gwefan.
GWNEWCH GAIS RŴAN