Os ydych chi’n ystyried cefnogi’r lluoedd arfog drwy brynu pabi eleni, sicrhewch ei fod yn dod o ffynhonnell ddibynadwy – Siop Pabi Ar-lein y Lleng Brydeinig Frenhinol, neu gan un o’u partneriaid corfforaethol.
Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi cofrestru ei hawliau dros nwyddau’r pabi i atal rhai ffug.
“Nwyddau pabi ffug – pethau i wirio”
Dylech edrych am nwyddau ffug gyda siâp, neu sy’n defnyddio delwedd pabi coch, dau betal y Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi cofrestru ei hawliau dros nwyddau’r pabi i atal rhai ffug.
I daclo’r twyll, dyma awgrymiadau gwych i osgoi prynu nwyddau pabi ffug ar-lein:
• byddwch yn ‘brynwr cyfrifol’ – prynwch o wefannau swyddogol a phartneriaid corfforaethol y Lleng Brydeinig Frenhinol
• osgowch nwyddau rhatach; os yw’r pris yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol ei fod
• mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn cydweithio gyda nifer o bartneriaid corfforaethol. Partneriaid corfforaethol yn unig sydd wedi’u hawdurdodi gan y Lleng Brydeinig Frenhinol i werthu nwyddau’r pabi
• os nad ydych yn siŵr, prynwch gan y Lleng Brydeinig Frenhinol neu eu cyfrif eBay neu Amazon swyddogol – ni fydd amheuaeth ynghylch eu dilysrwydd
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae’n ffaith drist iawn bod pobl yn ceisio gwneud elw o achosion da pobl eraill. Nid yw Apêl y Pabi eleni’n eithriad, ac rwy’n gobeithio y bydd pob ceiniog o roddion pobl yn cael eu rhoi i’r lluoedd arfog, eu teuluoedd a chyn-filwyr drwy brynu pabi er budd y Lleng Brydeinig Frenhinol ac nid y twyllwr.
“Beth i’w wneud os ydych chi wedi dod o hyd i nwyddau pabi ffug”
Ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555111 neu adroddwch y sgiâm ar-lein os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw un yn gwerthu nwyddau pabi, sydd yn eich tyb chi’n ffug.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN