Mae’n hawdd cymryd yn ganiataol mai lle diogel yw eich cartref.
Yn anffodus, nid hyn yw’r achos i rai pobl.
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, mewn perygl o gam-drin domestig neu drais rhywiol yn ystod yr argyfwng coronafeirws, darllenwch ymlaen am gymorth a chefnogaeth.
Ni ddylai cartref fod yn le llawn ofn, ond gan fod rhaid i ni dreulio mwy o amser gartref, gall ddod yn le lle mae perygl o gam-drin a thrais yn cynyddu ac efallai bydd rhai ailystyried sut rydych yn cadw’n ddiogel gartref.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr o’r dydd, 7 dydd yr wythnos ac mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig nifer o ffyrdd i ofyn am gymorth a chyngor gan gynnwys ffonio 0808 80 10 800, tecstio a sgwrs fyw. Ewch i dudalennau gwe Byw Heb Ofn i gael yr holl fanylion.
Mae gan y fideo yma gyngor pwysig ar sut i gadw’n ddiogel:
Ydych chi’n gallu rhoi cymorth i rywun sydd mewn perygl o gael eu cam-drin?
Ewch i dudalen Byw Heb Ofn ar wefan Llywodraeth Cymru i ddarganfod sut i roi cymorth diogel i rywun mewn angen yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19