Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cadw Plant yn Ddiogel Ar-lein yr Haf Hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Eisteddfod Wrecsam 2025 - cyrraedd y Maes
Eisteddfod Wrecsam 2025 – cyrraedd y Maes
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cadw Plant yn Ddiogel Ar-lein yr Haf Hwn
Y cyngorArall

Cadw Plant yn Ddiogel Ar-lein yr Haf Hwn

Diweddarwyd diwethaf: 2023/07/03 at 9:44 AM
Rhannu
Darllen 6 funud
children
RHANNU

Os ydi eich plant fel y rhan fwyaf o blant mi fyddan nhw’n codi ac yn mynd i’w gwlâu yn hwyrach.  Yn chwarae allan fwy.  Ac os ydyn nhw’n lwcus, efallai y byddwch yn mynd â nhw i ffwrdd ar wyliau.

Yr hyn sydd bron yn bendant yw byddan nhw’n mynd ar-lein yn fwy aml nag yn ystod y tymor…. i’w diddanu, i gadw mewn cysylltiad ac i sgwrsio gyda’u ffrindiau, chwarae gemau ar-lein a llu o bethau eraill y mae plant yn defnyddio’r rhyngrwyd ar ei gyfer.

Gyda’r holl amser ychwanegol sy’n cael ei dreulio yn gwneud mwy ar-lein, sut y gallwn fod yn siŵr bod pobl ifanc yn ein teulu yn ddiogel rhag y problemau y gallan nhw ei wynebu bob dydd?

Mae Tîm Get Safe Online wedi cyhoeddi awgrymiadau amserol i rieni a gofalwyr i helpu plant fwynhau profiad diogel a hyderus ar-lein:

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025
  • Sgwrsiwch yn rheolaidd gyda’ch plentyn am yr hyn y byddan nhw’n ei wneud ar-lein a gwnewch iddyn nhw ddangos i chi.  Dysgwch am y technolegau a’r tueddiadau newydd.  Siaradwch am yr agweddau negyddol o or-rannu, gweld cynnwys sy’n amhriodol, seiber-fwlio, perygl dieithriaid, gwario arian heb reolaeth arno a bod ar-lein am ormod o amser.  Dangoswch esiampl dda eich hun.
  • Helpwch eich plentyn i edrych ar wefannau ac apiau sy’n ddiogel.  Gwiriwch yr hyn y maen nhw’n ei wylio ac/neu rannu ar safleoedd ffrydio fel YouTube a TikTok. Anogwch nhw i ddefnyddio platfformau sy’n addas i blant fel YouTube Kids.
  • Mae chwarae gemau ar-lein, cyfryngau cymdeithasol, rhannu lluniau/fideos a llawer o apiau a gwefannau eraill gyda chyfyngiadau oedran am reswm, felly gwnewch yn siŵr nad ydi eich plentyn yn cael mynediad i’r rheiny os ydyn nhw’n rhy ifanc.
  • Lawrlwythwch apiau o ffynonellau cydnabyddedig fel yr App Store a Google Play. Ychwanegwch eich cyfeiriad e-bost ei hun wrth osod cyfrifon ac apiau i’ch plentyn. 
  • Trafodwch a chytunwch ar ffiniau a rheolau o oedran ifanc, gan gynnwys defnydd priodol ar-lein, gan wastad fod yn barchus ac yn ymwybodol o’r amser y maen nhw’n ei ddefnyddio ar-lein.  Rhowch reolaeth iddyn nhw, ond cofiwch nad oes ganddyn nhw’r profiad na’r aeddfedrwydd i wneud y dewisiadau cywir bob tro.
  • Ystyriwch osod apiau a meddalwedd rheoli i rieni ar gyfrifiaduron, dyfeisiadau symudol a gemau cyfrifiadur, nodweddion preifatrwydd ar safleoedd rhwydweithiau cymdeithasol, dewisiadau diogelwch ar beiriannau chwilio a gosodiadau lleoliad diogel ar ddyfeisiadau ac apiau.  Trowch eich ffilteri teulu ymlaen ar eich Protocol Rhannu Gwybodaeth.
  • Arhoswch yn gyfarwydd gyda gêm neu duedd cyfryngau cymdeithasol newydd, yn arbennig y rheiny sy’n atynnu cyhoeddusrwydd negyddol am eu bod yn dreisgar, yn annog hapchwarae, neu’n gadael y drws yn agored i anfon negeseuon at ddieithriaid, galluogi’r cyfle i hudo plentyn neu fathau eraill o orfodaeth.
  • Ar gyfer galwadau fideo, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn ddiogel drwy ddiweddaru i’r fersiwn diweddaraf o’r platfform, gan ddilyn ei gyngor diogelwch a gwirio fod gwahoddiadau ac ymatebion i alwadau ddim yn gallu cael eu gweld y tu allan i’r grŵp galw a gytunwyd arno.
  • Mae chwarae gemau ar-lein yn gallu bod â manteision datblygol i bobl ifanc ond siaradwch gyda nhw am yr agweddau negyddol posibl o sgwrsio gyda dieithriaid, pryniannau o fewn gemau (fel cistiau trysor, crwyn a thwyllo), a gorwneud hi o ran amser ar y sgrin.
  • Siaradwch gyda’ch plentyn am wybodaeth anghywir, gam-wybodaeth a newyddion ffug.  Dywedwch wrthyn nhw i beidio â chredu neu rannu popeth y maen nhw’n ei weld neu ddarllen, yn enwedig yn y dyddiau o ‘newyddion’ wedi’i noddi a delweddau, fideos a thestun wedi’u creu gyda Deallusrwydd Artiffisial.
  • Rhybuddiwch eich plentyn am wybodaeth gyfrinachol, manylion personol a delweddau/fideos am eu hunain ac eraill y maen nhw’n ei rhannu mewn negeseuon, proffiliau a sgyrsiau.  Ystyriwch yr hyn yr ydych yn ei rannu am eich hun.
  • Heb fod yn rhy reolaethol, cadwch lygad ar weithgareddau ar-lein eich plentyn a gwybod sut i adnabod yr arwyddion fod rhywbeth ddim yn iawn.  Er enghraifft, mae troseddwyr wedi manteisio ar ddefnyddio’r we i recriwtio plant i wneud gweithgareddau anghyfreithlon fel seiberdroseddu a chludo cyffuriau.

Mae Get Safe Online yn ffynhonnell gwybodaeth a chyngor arweiniol y DU ar ddiogelwch  ar-lein i’r cyhoedd a busnesau bach.  Mae’n bartneriaeth ddielw, sector cyhoeddus/preifat sy’n derbyn cefnogaeth gan yr asiantaethau gorfodi’r gyfraith a sefydliadau arweiniol mewn diogelwch rhyngrwyd, bancio a manwerthu. Ewch i’w gwefan i gael mwy o wybodaeth ar gadw eich plant a chithau yn ddiogel ar-lein.

Get the latest news and info straight into your inbox

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Play the Movie “CHWARAE – Y Ffilm!”- Plant i gael rolau arweiniol wrth i oriel Tŷ Pawb ddod yn set ffilm
Erthygl nesaf Digwyddiad i ddathlu llwyddiannau Dechrau Deg... Digwyddiad i ddathlu llwyddiannau Dechrau Deg…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall

Arolwg Cyflwr Gofalu 2025

Gorffennaf 10, 2025
Waste Collections
Y cyngor

Casgliadau biniau ddydd Gwener, Gorffennaf 11

Gorffennaf 9, 2025
Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
Arall

Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad

Gorffennaf 7, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English