Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 4, 2025 11:45 am
Rhannu
Darllen 4 funud
9000
RHANNU

Y gaeaf diwethaf, gyda chefnogaeth Partneriaeth Coedwig Wrecsam, plannodd Cyngor Wrecsam dros 9,000 o goed ar draws y fwrdeistref sirol, gan gyfoethogi cynefinoedd coetir hanfodol a chefnogi mannau gwyrdd i bobl a bywyd gwyllt.

Cynnwys
  • Cymerwch Ran: Byddwch yn Rhan o Ddyfodol Gwyrdd Wrecsam
  • Gwnewch nodyn yn eich calendr: Wythnos Cysylltiadau Coetir – Mehefin 14–21, 2025

Mae coed a choetiroedd yn darparu llu o fanteision i bobl a bywyd gwyllt, o wella ansawdd aer a lleihau gwres trefol i gefnogi bioamrywiaeth a hybu llesiant. Mae effaith gadarnhaol coed yn bellgyrhaeddol.

Wedi’i gefnogi gan gyllid o Gronfa Coed Argyfwng Coed Cadw yn ogystal â Trees for Cities, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, canolbwyntiodd y rhaglen ar blannu mewn ardaloedd blaenoriaeth â gorchudd coed isel a sgoriau ecwiti coed gwael, gan sicrhau bod y cymunedau mwyaf anghenus yn elwa o’r manteision niferus y mae coed yn eu cynnig. Darganfyddwch eich sgôr ecwiti coed yma: Sgôr Ecwiti Coed

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr aelod arweiniol dros wasanaethau amgylcheddol: “Rwy’n falch ein bod wedi llwyddo i blannu’r 9,000 o goed hyn mewn ardaloedd o amgylch y fwrdeistref sirol. Mae coed wrth wraidd amgylchedd ffyniannus, gwydn. Trwy fuddsoddi yn ein coetiroedd, rydym yn buddsoddi mewn cymunedau iachach, cynefinoedd cyfoethocach, a dyfodol gwyrddach i Wrecsam.”

Mae’r coed sydd newydd eu plannu yn rhan o ymdrech hirdymor i greu rhwydwaith coetir mwy cysylltiedig a chynaliadwy ledled y sir. Mae coetiroedd yn gynefin blaenoriaethol i Gymru ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i wrthdroi’r argyfwng hinsawdd a natur y mae’r wlad yn ei wynebu. Mae plannu coed trwy brosiectau fel hyn yn cefnogi bywyd gwyllt lleol trwy gynyddu cynefinoedd naturiol, gan ddarparu bwyd a lloches hanfodol i adar, pryfed a mamaliaid.

Cymerwch Ran: Byddwch yn Rhan o Ddyfodol Gwyrdd Wrecsam

Mae gofalu am ein coed yr un mor bwysig â’u plannu. Mae Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn gwahodd trigolion lleol i wirfoddoli a helpu i ofalu am y coed ifanc hyn dros y blynyddoedd i ddod. P’un a ydych chi’n arddwr profiadol neu’n ddechreuwr llwyr, mae croeso i bawb gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i gefnogi coed a choetiroedd, anfonwch e-bost at woodlandpledge@wrexham.gov.uk.

Gallwch hefyd ddangos eich cefnogaeth drwy lofnodi Addewid Coetir Wrecsam ar wefan Cyngor Wrecsam – ffordd syml o gydsefyll â’ch cymuned wrth werthfawrogi a gwarchod ein coed trefol a gwledig.

Gwnewch nodyn yn eich calendr: Wythnos Cysylltiadau Coetir – Mehefin 14–21, 2025

Ymunwch â ni yr haf hwn ar gyfer Wythnos Cysylltiadau Coetir, 14-21 Mehefin, i ddathlu coed a choetiroedd a’r rôl maen nhw’n ei chwarae wrth siapio ein byd. Gyda digwyddiadau, gweithdai a theithiau cerdded tywys wedi’u cynllunio ledled y sir, mae’n gyfle perffaith i ddysgu mwy, cael eich ysbrydoli, a chysylltu â natur. Bydd rhagor o fanylion yn dod yn fuan.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Mawr Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Erthygl nesaf trees Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English