Dywedodd Trefnydd Cyfnewidfa Ddillad Wrecsam, Sharon Rogers am y digwyddiad. Mae Swop Not Shop wedi bod yn llwyddiant gyda phobl yn dod o mor bell â’r Bala, Amwythig a Chaer i gymryd rhan. Wrth i’r digwyddiad agor, roedd ciw o bobl yn aros yn amyneddgar!”
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Dywedodd Trefnydd Cyfnewidfa Ddillad Wrecsam, Sharon Rogers am y digwyddiad. Mae Swop Not Shop wedi bod yn llwyddiant gyda phobl yn dod o mor bell â’r Bala, Amwythig a Chaer i gymryd rhan. Wrth i’r digwyddiad agor, roedd ciw o bobl yn aros yn amyneddgar!”
Ychwanegodd Sharon, “I rai, yr apêl oedd y gallent gael wardrob gyfan o ddillad bob mis, i eraill roedd yn ymwneud ag arbed arian ac i’r mwyafrif, roedd gyfle i helpu’r amgylchedd, lleihau allyriadau carbon a lleihau gwastraff tirlenwi. Mae cyfnewid 700 o eitemau’n golygu 700 yn llai o eitemau tirlenwi a 700 yn llai o eitemau’n cael eu cynhyrchu.”
“Edrychwn ymlaen at y digwyddiad nesaf”
SDywedodd Sharon, “Roedd pawb y siaradais â nhw yn y digwyddiad yn hapus ac yn dweud wrthyf yr hoffent i ddigwyddiad fel hwn fod wedi digwydd yn gynharach. Roedd gan ein gwirfoddolwyr anhygoel wedi cael adborth tebyg ac rydym yn edrych ymlaen at yr un nesaf ddydd Sadwrn, 9 Tachwedd. Os hoffech chi wybod mwy, teipiwch Cyfnewidfa Ddillad Wrecsam (Wrexham Clothing Exchange) ar Facebook neu Twitter.”
Dywedodd Ms Rogers hefyd, “Mae gennym nifer o bobl i ddiolch iddynt, yn gyntaf, ein Gwirfoddolwyr, a aeth yr ail filltir i wneud y digwyddiad yn un llwyddiannus. Gareth Jones, Carl Turner, Pete Rogers a phawb yn Hwb Menter Wrecsam am eu cefnogaeth yn ogystal â bod yn leoliad i ni; Jenny Thomas o Renew Sewcials am ei chaffi trwsio, Abode Above, Off The Cuff, St Vincent’s a Sports Direct am fenthyg rheiliau dillad; Ein cyfeillion yn King Street Coffee Company a Bank Street Social Wrexham a oedd yn ddigon caredig i gefnogi ein digwyddiad cyntaf drwy gynnig 50% o ostyngiad ar eu diodydd poeth wrth i’r cyfnewidwyr aros; Andrew Parker ac AWP Services am eu cymorth gyda logisteg; Ac yn olaf, diolch yn fawr i Ian Lucas AS a’r Maer Rob Walsh am agor ein digwyddiad. Welwn ni chi ar 9 Tachwedd!”
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD