Efallai y byddwch chi wedi gweld rhai o’r sesiynau hyfforddiant rydym ni wedi’u cynnig yn rhan o’n rhaglen sgiliau adeiladu traddodiadol.
Gan nad oes posib’ cynnal y cyrsiau wyneb yn wyneb am y tro, yn ddiweddar, fe wnaethom ni gynnal ein cwrs undydd cyntaf ar gyflwyniad i gymysgedd calch poeth yn fyw i’r gweithwyr dan hyfforddiant yn eu cartrefi.
Fe wnaeth Ned Sharer, o’r Ganolfan Adeiladu Genedlaethol, sy’n arbenigwr ar gyngor, arweiniad a hyfforddiant i ddefnyddio calch a sgiliau eraill crefft adeiladu, roi golwg ar ddefnyddio morter calch.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Er nad oedd y gweithwyr dan hyfforddiant yn gallu profi eu sgiliau ymarferol fel y byddent yn ei wneud fel arfer wrth ddysgu wyneb yn wyneb, roedd yn gwrs ar-lein ardderchog oherwydd gwybodaeth a natur Ned wrth gyflwyno.
Cymerwch olwg ar y llun isod i weld sut y cafodd y cwrs ei ddarparu.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi: “Roeddwn i’n falch iawn o glywed bod yr hyfforddiant yma’n cael ei ddarparu mewn ffordd arloesol tra oedd yr hyfforddwyr yn methu â chynnig cwrs traddodiadol wyneb yn wyneb. Mae’r ffordd newydd yma o ddarparu hyfforddiant yn gyfle gwych ac yn rhan allweddol o’r rhaglen o sgiliau adeiladu traddodiadol.
“Mae mor bwysig ein bod yn gallu cynyddu’r gronfa o sgiliau ar gyfer y mathau yma o grefftau arbenigol yn Wrecsam.
“Po fwyaf y gallwn ni wneud hynny, y mwyaf o grefftwyr a chontractwyr fydd gennym ni’n lleol a fydd yn gallu gwneud y math o waith sydd ei angen i gynnal a chadw ein stoc ardderchog o adeiladau treftadaeth a thraddodiadol.
“Mae wedi bod yn braf iawn gweld y diddordeb yn y cwrs byw ar-lein a faint ymunodd ag o.
“Mae cyrsiau tebyg wedi’u cynllunio ar gyfer yr wythnosau nesaf, felly byddwn yn cynghori’r rhai sydd â diddordeb i gadw llygad ar ein blog a’r wasg am fwy o wybodaeth.”
Mae’r cyrsiau am ddim diolch i gyllid gan Raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam; sydd wedi’i hariannu trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a gaiff ei hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
CANFOD Y FFEITHIAU