Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canlyniad arloesi – y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gwneud cynnydd enfawr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Canlyniad arloesi – y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gwneud cynnydd enfawr
Y cyngor

Canlyniad arloesi – y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gwneud cynnydd enfawr

Diweddarwyd diwethaf: 2024/05/07 at 12:18 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Council occupational therapy team
RHANNU

12 mis yn ôl, roedd dros 800 o bobl yn aros am asesiad therapi galwedigaethol… mae llai na 250 o bobl yn aros erbyn hyn.

Mae Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cyngor Wrecsam wedi cymryd camau breision dros y flwyddyn ddiwethaf – gan gwtogi rhestrau aros yn sylweddol, a pharhau i ddarparu cefnogaeth o’r radd flaenaf.

Mae’r gwasanaeth yn helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd byw bywyd o ddydd i ddydd oherwydd problemau iechyd neu symudedd – gan eu helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth gywir, fel bod modd iddynt fyw mor annibynnol â phosibl a chael ansawdd bywyd da.

Ym mis Ebrill 2023, roedd yna 859 o bobl yn aros am asesiad Therapi Galwedigaethol, ond erbyn mis Mawrth 2024, roedd y ffigwr wedi’i ostwng i 248.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’r gwasanaeth wedi cwtogi rhestrau aros drwy ganolbwyntio ar reoli’r galw, atal a recriwtio.
Mae’r Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion, yn egluro mwy am y dull hwn…

Meddai: “Un o’r pethau pwysicaf a wnaethom oedd dyrannu 600 o asesiadau ar gontract i ddarparwr allanol. Gwnaeth hyn wahaniaeth mawr i restrau aros, gan olygu bod modd i staff ganolbwyntio ar agweddau eraill ar y gwasanaeth.

“Fe wnaethom hefyd lunio canllaw hunan gymorth er mwyn annog pobl i ddod o hyd i’w datrysiadau eu hunain, lle bo modd, o ran byw bywyd annibynnol o ddydd i ddydd. Mae’r canllaw wedi’i ddosbarthu ar draws adrannau ac mae ar gael ar wefan y Cyngor.

“Fe wnaethom hefyd sefydlu Clinig Asesu Cymunedol yng Nghanolfan Cunliffe, gydag ystafelloedd byw ffug – gan gynnwys ystafell ymolchi ac ystafell wely – lle’r oedd modd cynnal yr asesiadau.

“Bu i hyn hefyd ein helpu i weithio drwy’r rhestrau aros yn gyflymach, a’n galluogi i gyfeirio pobl at y canllaw hunan gymorth lle bo’n briodol.

“Mae’r holl bethau hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, ac er bod gennym gryn dipyn o waith i’w wneud o hyd, mae hi’n llawer haws ymdopi â’n rhestrau aros erbyn hyn.”

Canlyniad arloesi – y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gwneud cynnydd enfawr
Canlyniad arloesi – y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gwneud cynnydd enfawr
Canlyniad arloesi – y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gwneud cynnydd enfawr
Canlyniad arloesi – y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gwneud cynnydd enfawr
Canlyniad arloesi – y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gwneud cynnydd enfawr
Mae’r gwasanaeth yn helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd byw bywyd o ddydd i ddydd oherwydd problemau iechyd neu symudedd.

Mae recriwtio a chadw’r bobl gywir hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y prosiect hwn, drwy greu swyddi arbenigol, yn ogystal â mentrau i ddatblygu ein staff presennol.

Dywed y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, fod y cynnydd o ran Therapi Galwedigaethol yn dangos sut y mae’n rhaid i Gynghorau feddwl yn ehangach.

Meddai: “Mae galw uchel iawn am wasanaethau’r Cyngor, a gyda chyn lleied o adnoddau, mae’n rhaid i ni reoli’r galw hwnnw yn y ffordd orau bosibl. Mae’n rhaid i ni feddwl mewn ffordd wahanol a defnyddio dulliau newydd.

“Mae’r gwaith i gwtogi rhestrau aros yn ein Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol dros y 12 mis diwethaf yn enghraifft wych o hyn – rydym wedi edrych ar sut y gallwn wneud pethau’n wahanol, a sut y gallwn helpu pobl i gefnogi eu hunain, lle bo modd.

“Mae’r tîm Therapi Galwedigaethol a’r adran gofal cymdeithasol ehangach wedi gweithio galed iawn ac wedi cyflawni canlyniadau rhyfeddol, ac er bod y rhain yn anawsterau ariannol digynsail i lywodraeth leol ar draws y 22 awdurdod yng Nghymru, mae’n dangos y gallwn barhau i fod yn arloesol o ran sut rydym yn darparu gwasanaethau ar gyfer ein cymunedau.”

Rhannu
Erthygl flaenorol WOW Walk to School Challenge Ysgolion Wrecsam yn cymryd rhan yn Her Cerdded i’r Ysgol: WOW
Erthygl nesaf Hwb Cymraeg yn Focus Wales 9-11 Mai Hwb Cymraeg yn Focus Wales 9-11 Mai

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English