Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn Cyhoeddi Cymorth Costau Byw Cyn y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyngor Wrecsam yn Cyhoeddi Cymorth Costau Byw Cyn y Nadolig
Pobl a lleY cyngor

Cyngor Wrecsam yn Cyhoeddi Cymorth Costau Byw Cyn y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: November 19, 2025 3:12 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Cost of Living
RHANNU

Yr wythnos diwethaf, datgelwyd cynlluniau ynglŷn â chymorth Costau Byw ym Mwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam.

Roedd y cynlluniau’n cynnwys defnyddio grantiau drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fydd yn caniatáu i Gyngor Wrecsam gyfrannu £60,000 yn uniongyrchol i Fanc Bwyd Wrecsam eleni a £60,000 y flwyddyn nesaf.

Bydd y cyllid yn cael ei roi i’r banc bwyd yn uniongyrchol, sy’n darparu bwyd a chynhyrchion ymolchi i’r rhai mewn angen.

Eleni, bydd Cyngor Wrecsam yn dyrannu £40,000 o gyllid partneriaeth bwyd lleol, a fydd hefyd yn cefnogi Rhaglen Grantiau Bach Partneriaeth Bwyd Wrecsam cyn y Nadolig. Mae’r un cyfraniad wedi’i gynllunio ar gyfer 2026/27.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei reoli gan Swyddog Datblygu Bwyd Cyngor Wrecsam a ariennir yn allanol.

Mae Cyngor Wrecsam wedi sefydlu Gweithgor Costau Byw sy’n grŵp trawsbleidiol o aelodau a swyddogion sy’n cyfarfod yn rheolaidd i archwilio a datblygu atebion i gefnogi trigolion sy’n wynebu pwysau ariannol.

Mae gwaith i ddatblygu atebion a chefnogi pobl mewn angen yn bodoli ar draws y Cyngor eisoes.

Er enghraifft, ym maes Tai, mae gan bob Swyddfa Ystadau Swyddog Cynhwysiant Ariannol sy’n cefnogi preswylwyr tai cymdeithasol i sicrhau’r incwm mwyaf a rheoli taliadau rhent yn rhwydd. 

TAGGED:Cost of livingwrexham support
Rhannu
Erthygl flaenorol Library parking Pwyntiau gwefru cerbydau trydan ym maes parcio’r llyfrgell
Erthygl nesaf E-Scooter in Christmas wrapping paper Peidiwch â chymryd cam gwag costus y Nadolig hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngor Digwyddiadau
November 10, 2026
Chirk Aqueduct
Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun
Pobl a lle Digwyddiadau
November 10, 2026
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Y cyngor
November 10, 2026
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Pobl a lle Digwyddiadau
November 6, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Pobl a lle

Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026

November 5, 2026
Wrecswyl Logo
Pobl a lleDigwyddiadau

Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!

November 6, 2026
Library
Y cyngorPobl a lle

Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn

November 5, 2026
Walking
Pobl a lleArall

Ewch yn Lleol ym mis Tachwedd

November 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English