Sesiwn Wybodaeth i ddarpar Aelodau’r Grŵp Tasg ar 24/01/2024 AM 6pm yng ngofod perfformio Tŷ Pawb.
Mae nifer o fusnesau Wrecsam wedi bod yn edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardal Gwella Busnes (AGB). Gyda dros 320 o AGB ar waith yn y DU gan gynnwys yng Nghaer a’r Amwythig gerllaw, mae’r cysyniad hwn yn ffordd wahanol o reoli a hyrwyddo dinasoedd a threfi a gallai fod yn gyfle i Ganol Dinas Wrecsam.
Mae gwaith dichonoldeb eisoes wedi’i wneud i edrych ar sut y gallai AGB fod o fudd i Wrecsam gan ymgynghorwyr. Ar ôl cwblhau’r ymchwil hwn, hoffem wahodd busnesau i Sesiwn Wybodaeth gyda golwg ar ffurfio Grŵp Tasg AGB i gario’r gwaith yn ei flaen.
Bydd hwn yn gyfle i ddarganfod beth yw AGB, sut mae wedi gweithio mewn mannau eraill a beth allai ei wneud i Ganol Dinas Wrecsam. Bydd hefyd yn nodi’r cylch gorchwyl ar gyfer Grŵp Tasg wrth symud ymlaen. Bydd mynychwyr hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i’r tîm sydd wedi bod yn gweithio ar hyn.
Mae’n hanfodol bod busnesau lleol yn arwain y gwaith o ddatblygu AGB gan ei fod wedi’i gynllunio i ddarparu rheolaeth, arweiniad a chyllid i’r gymuned fusnes er mwyn gwella’r amgylchedd masnachu lleol. Mae meddyliau a barn busnesau lleol yn ganolog i’r broses hon, ac yn hanfodol ar gyfer llunio’r dyfodol.
Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni ar gyfer y sesiwn bwysig hon a fydd yn ein helpu i benderfynu sut y gellir rheoli a marchnata Canol Dinas Wrecsam yn y blynyddoedd i ddod.
Cadarnhewch eich presenoldeb trwy e-bostio Amy.Wainscott@wrexham.gov.uk erbyn 23/01/2024 a diolch i chi am eich amser a’ch diddordeb.