Bob blwyddyn, rhaid i ni lunio adolygiad blynyddol o’n perfformiad ar draws nifer o feysydd lle mae’r cyngor yn gweithio – meysydd fel addysg, gofal cymdeithasol i oedolion, yr amgylchedd, priffyrdd, yr economi ac eraill.
Mae canlyniadau’r adolygiadau hynny yn cael eu cyhoeddi yn ein hadroddiad Canolbwyntio ar ein Perfformiad blynyddol.
Mae adroddiad eleni yn adolygu ein cynnydd ar gyfer y flwyddyn 2020/21 ac mae bellach ar gael ar-lein Cynllun y Cyngor 2020-2023 | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a chafodd ei drafod gan ein Bwrdd Gweithredol ar 12 Hydref.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Beth sydd yn yr adroddiad?
Mae’n mesur ein perfformiad yn erbyn yr Amcanion Lles a Blaenoriaethau Gwella a nodir yng Nghynllun y Cyngor 2021-2023.
Dydy hi ddim yn syndod fod adroddiad eleni yn amlygu’r gwasanaethau a barhawyd i’w darparu gan weithlu’r cyngor yn ystod pandemig Covid-19 ac mae’n canmol staff a gwirfoddolwyr am weithio fel tîm ac am addasu i amodau gweithio newydd, am newid rolau mewn ymateb i bwysau ac am feddwl am ddatrysiadau arloesol i gefnogi’n cymunedau.
Canmolodd Arweinyddiaeth y Cyngor y gweithlu am eu hymdrechion arwrol yn y modd y bu iddynt ymateb i’r pandemig a’r cymorth a’r gefnogaeth a ddarparwyd i gymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r gweithlu wedi ymateb yn sydyn iawn i sefyllfaoedd oedd yn newid yn gyson ac wedi ymateb i’r her o dan bwysau eithafol. Drwy gydol y pandemig, mae gwasanaethau hanfodol wedi eu cynnal o ganlyniad i benderfyniad a hyblygrwydd gweithlu’r cyngor ac maent wedi cefnogi’r mwyaf diamddiffyn pan oedd arnynt angen y mwyaf o gymorth.
Roedd y gweithlu yn broactif ac yn greadigol o ran ail-greu gwasanaethau a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio i sicrhau fod gwasanaethau hanfodol yn parhau, weithiau mewn rolau newydd. Drwy ymdrechion y gweithlu yn ystod y Pandemig roedd rhai enghreifftiau o ymateb yn cynnwys:
- Darparu llety i bobl oedd yn ddigartref neu’n cysgu ar y stryd yn ystod y pandemig.
- Sicrhau fod busnesau lleol a chwmnïau yn derbyn cyngor ac yn derbyn dros £3.5 miliwn mewn grantiau.
- Cefnogi ysgolion a lleoliadau gofal plant i aros ar agor i ddarparu gofal plant i blant gweithwyr allweddol ac i’r rhai oedd yn bodloni’r meini prawf oherwydd eu bod yn ddiamddiffyn.
- Darparu bwyd a chyflenwadau yn gynnar i blant ac oedolion diamddiffyn, drwy wirfoddolwyr o’n gweithlu presennol.
- Roedd darparu gwasanaeth hanfodol allweddol yn cynnwys casgliadau sbwriel
- Cynnal gwaith trwsio mewn argyfwng
- Rhannu iPads i gartrefi gofal i gefnogi ymweliadau rhithiol gan deuluoedd
- Cefnogwyd y broses ddigynsail o gyflwyno’r gwasanaeth Profi Olrhain a Diogelu, a chyflwyno brechlyn Covid-19
Mae’r adroddiad yn mynd ymlaen i drafod y llwyddiannau a fu, er gwaetha’r pandemig a’r tarfu a fu ar weithio tuag at ein 6 o Amcanion Lles a Blaenoriaethau Gwella, oedd yn gynnwys:
- Symud a datblygu Canolfan Wybodaeth newydd i Ymwelwyr ar Stryt Caer, sy’n ychwanegu at yr adfywiad a’r buddsoddiad sy’n digwydd yn y rhan hon o ganol y dref.
- Fe wnaeth argaeledd gwasanaethau ar-lein i gwsmeriaid barhau i wella drwy gydol y flwyddyn, gyda 24 o wasanaethau ychwanegol ar gael ar-lein a derbyniwyd mwy na 60,000 o geisiadau am wasanaeth ar-lein yn ystod y flwyddyn.
- Er gwaetha oedi yn ystod cyfnod clo Covid-19, mae gwaith adeiladu wedi parhau i ddatblygu yn dda o safbwynt ein Hwb Iechyd a Lles Cymunedol modern yn Adeiladau’r Goron.
- Mae’r grŵp amlasiantaeth Rheoli Pobl Ddiamddiffyn sydd mewn Perygl wedi parhau i gydweithio i roi atebion ar waith i amddiffyn pobl ddiamddiffyn a lleihau effeithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Rydym yn un o awdurdodau lleol arweiniol Cymru o ran gosod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan mewn meysydd parcio cyhoeddus.
- Y Bwrdd Gwella Cyflym sydd wedi cyflawni gwelliant parhaus mewn Gofal Cymdeithasol i Blant dros y flwyddyn.
Symud ymlaen
Byddwn nawr yn symud ymlaen wrth i gyfyngiadau lacio, a datblygu’r gwaith ar Uwch Gynllun Canol Tref Wrecsam i adfywio’r sector busnes a sicrhau fod Wrecsam yn ganolfan fasnachol gynaliadwy sy’n ffynnu.
Rydym yn gweithio i sicrhau cyllid i brynu eiddo masnachol nad ydynt yn cael eu defnyddio yng nghanol y dref a drwy weithio gyda busnesau a’r gymuned leol, rydym am newid y gymysgedd o ddefnydd eiddo yng nghanol y dref i gynyddu’r dewisiadau o ran tai er mwyn cynorthwyo i fodloni’r galw o ran tai yn lleol.
Rydym yn obeithiol ynglŷn â’r ddau gais i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU ar gyfer Porth Wrecsam (£18 miliwn) a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte (£15 miliwn)
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor “Dyma’r flwyddyn fwyaf heriol erioed a rhaid diolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw.
“Mae llawer i fod yn falch ohono, a llawer i edrych ymlaen ato ac rydw i’n ofnadwy o ddiolchgar i bawb, staff, aelodau, ein sector gwirfoddol, ein busnesau a’n trigolion am eu cadernid a’u gallu i newid ac addasu i ffyrdd newydd o wneud pethau yn y ystod y cyfnod clo ac wedi hynny.
“Edrychaf ymlaen at weld y gwaith yn parhau ar gynlluniau uchelgeisiol i wneud Wrecsam yn lle y gallwn i gyd fod yn falch ohono”.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL