Cyn bo hir gallai prosiect treftadaeth pwysig sy’n cynnwys atyniadau’n dyddio’n ôl filiynau o flynyddoedd dderbyn hwb ariannol gan Gyngor Wrecsam.
Mae Prosiect Treftadaeth Brymbo, sydd a’i fryd ar ddatgloi potensial gorffennol cynhanes a diwydiannol cyfoethog Brymbo, wedi ennill momentwm dros y blynyddoedd diweddar wrth edrych am ffyrdd i adfywio’r pentref a’r ardaloedd cyfagos.
Mae gan y prosiect, – sy’n cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo – gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y pentref, gan gynnwys adfer hen safle gwaith haearn a dur Brymbo a gwneud gwaith archwilio a chadwraeth yn y goedwig ffosil gerllaw – safle o ddiddordeb daearegol pwysig sy’n dyddio’n ôl dros 300 miliwn o flynyddoedd.
Diolch i gefnogaeth Cyngor Wrecsam, bu modd i’r Ymddiriedolaeth ddenu bron £2,000,000 gan raglen ‘Creu eich Lle’ Cronfa’r Loteri Fawr gan ei alluogi i roi dechrau da i’w fenter ‘Roots to Shoots’ sy’n edrych ar ffyrdd o wneud defnydd o hen ardaloedd diwydiannol agored yn y pentref a’r cyffiniau.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae’r arian eisoes wedi helpu’r ymddiriedolaeth i benodi tri unigolyn i dair swydd newydd, gyda dau Swyddog Datblygu ac un Swyddog Cyllid wedi’u penodi i weithio ar y cynlluniau Roots to Shoots.
Ond er mwyn gallu gwneud cynnydd pellach mae’r Ymddiriedolaeth wedi gofyn i Gyngor Wrecsam am fenthyciad o £170,000 er mwyn gallu symud ymlaen â’r cynlluniau hyn.
Byddai’r benthyciad yn cael ei ad-dalu i Gyngor Wrecsam gan ddefnyddio arian wedi’i adhawlio gan y Gronfa Loteri Treftadaeth.
Bydd aelodau arweiniol Cyngor Wrecsam yn trafod y benthyciad yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth, 12 Medi.
Cymorth gyda nawdd grant
O dan rai trefniadau ariannu mae’n ofynnol weithiau i sefydliadau wario eu harian eu hunain ac yna’i adhawlio o arian grant – ond gall hyn fod yn anodd i sefydliadau llai nad oes ganddynt symiau mawr o arian yn y lle cyntaf.
Os ceir cymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol, byddai benthyciad yr Awdurdod yn helpu i leddfu pwysau llif arian parod Prosiect Treftadaeth Brymbo gan sicrhau fod y cyllid angenrheidiol ganddo i gychwyn prosiectau unigol, a byddai’r Cyngor wedyn yn cael eu benthyciad yn ôl o arian grant.
Meddai Nick Amyes, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y brwdfrydedd y mae Cyngor Wrecsam yn ei ddangos tuag at ein cynlluniau, ond heb eu cefnogaeth ymarferol, yn syml iawn, allwn ni ddim prosesu rhai o’r grantiau mwy yr ydym eu hangen i droi ein cynlluniau’n realiti. Mae ein cam nesaf yn dibynnu ar ein gallu i ‘wario gyntaf, adhawlio wedyn’ felly mae arnom angen cyfalaf gweithio a byddai benthyciad gan y Cyngor yn ateb perffaith.”
“Bydd cefnogaeth y cyngor yn ein helpu ni i reoli ein cronfeydd ac yn ein galluogi ni i ddechrau ar y gwaith yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI