Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cefnogi Eisteddfod Wrecsam 2025
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cefnogi Eisteddfod Wrecsam 2025
Pobl a lle

Cefnogi Eisteddfod Wrecsam 2025

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 28, 2024 2:21 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Cefnogi Eisteddfod Wrecsam 2025
RHANNU

Gŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop yn dod i Wrecsam

Rhwng 2 a 9 Awst 2-25 cynhelir yr ŵyl fwyaf o’i math yn Ewrop yn Wrecsam!

Er bod mis Awst yn teimlo’n bell i ffwrdd, mae digonedd i’w wneud wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod yn y misoedd nesaf.

Cefnogi Eisteddfod Wrecsam 2025

Cymerwch ran – Get involved

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi hwb i’r iaith a diwylliant Cymreig yn yr ardal lle caiff ei chynnal bob blwyddyn. Gall pob un ohonom fod yn rhan o hynny. Un o’r ffyrdd symlaf o gymryd rhan ydi defnyddio faint bynnag o Gymraeg a fedrwch chi. Os ewch chi ar eich gwyliau i Ffrainc neu Sbaen, mae’n beth cwbl arferol i orffen sgwrs drwy ddweud ‘merci’ neu ‘gracias’ ond dydyn ni ddim bob amser yn meddwl am ddweud ‘diolch’ yng Nghymru. Pe byddai pawb yn dweud ‘diolch’ dim ond unwaith y diwrnod yn Wrecsam, byddai hynny’n golygu bod rhywun yn defnyddio’r Gymraeg 135,000 o weithiau mewn diwrnod, neu filiwn mewn wythnos – gyda dim ond un gair. Dychmygwch y ffigyrau pe byddem yn defnyddio ychydig o eiriau Cymraeg eraill hefyd. Rhowch gynnig arni > Give it a go!

Cefnogi Eisteddfod Wrecsam 2025

Os ydych chi’n rhedeg busnes yn Wrecsam, gallai fod o fantais fawr ichi ddefnyddio rhywfaint o Gymraeg wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod ac yn ystod yr ŵyl, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein, i ddenu cwsmeriaid o blith y miloedd o ymwelwyr a fydd yn dod i’r ardal. Ym Mhontypridd oedd yr Eisteddfod y llynedd a daeth 186,000 o bobl i’r dref gan roi hwb aruthrol i’r economi leol.

Cefnogi Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’r Eisteddfod yn cael ei hariannu drwy amryw ffynonellau, ond un o’r rhai pwysicaf yw’r grwpiau lleol sy’n codi arian yn ardal yr ŵyl. Yn Wrecsam, ffurfiwyd grwpiau mewn gwahanol ardaloedd daearyddol yn ogystal ag un dudalen gyffredinol, Digwyddiadau Eisteddfod Wrexham Events . Ymunwch â’ch grŵp lleol chi i gael cymryd rhan! Mae’n ffordd wych o ddod i adnabod pobl newydd yn y gymuned leol ac ailgysylltu â hen ffrindiau.

Clywedog    Ardal Alun    Maelor   Ceiriog   Wrecsam-Canolog    Dyfrdwy

*Ceir mwy o fanylion am yr ardaloedd hyn ar ddiwedd y ddogfen hon.

Cefnogi Eisteddfod Wrecsam 2025

Cyhoeddir mwy o brosiectau a chyfleoedd i gymryd rhan yn nes at yr amser, yn ogystal â chyfleoedd i wirfoddoli ar Faes yr Eisteddfod. Ymunwch â’ch grŵp Facebook lleol i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf – gallwch hefyd gofrestru i gael newyddion drwy e-bost yn rheolaidd. COFRESTRWCH YMA

Cefnogi Eisteddfod Wrecsam 2025

Meddai Llinos Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gweithredol Eisteddfod Wrecsam: “Mae’r cyfnod yma o baratoi ar gyfer Eisteddfod Wrecsam yn cynnig llu o gyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau a digwyddiadau codi arian yn y gymuned a dod yn nes at ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg. A ninnau ar y ffin, rydyn ni’n Gymry brwd yn Wrecsam ac yn groesawgar hefyd. “Dewch inni weld yr Eisteddfod fel cyfle i dyfu ein hunaniaeth Gymreig yn Wrecsam.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Cefnogwr y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam: “Mae yno rywbeth at ddant pawb yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd ymweld â’r Maes ym mis Awst yn gyfle gwych i drochi’ch hun yn niwylliant Cymru, p’un a ydych chi’n siarad Cymraeg bob dydd neu ddim o gwbl. Cymerwch ran, a gwnewch y gorau o’r adeg arbennig hon yn Wrecsam.”

Cefnogi Eisteddfod Wrecsam 2025

Raffl fawr – the big raffle: £5 y tocyn a gwobr o dalebau gwyliau gwerth £3,000. Os hoffech chi wirfoddoli i werthu tocynnau raffl yn eich gwaith neu’ch cymuned leol, mae’r manylion cyswllt ar dudalen eich grŵp lleol ar Facebook.

GRWPIAU LLEOL

Digwyddiadau Eisteddfod Wrexham Events

Ardal Clywedog: Coedpoeth – Y Mwynglawdd – Gwynfryn – Bwlchgwyn -Brymbo – New Broughton – Tanyfron – Southsea – Pentre Broughton – Caego – Brynteg

Ardal Alun: Gwersyllt – Summerhill – Bradle – Llai – Marford – Gresffordd – Yr Orsedd/Rossett -Burton -Hossley

Maelor: Marchwiel – Bangor is y Coed – Cross Lanes – Owrtyn – Penley – Maelor -Holt -Ystad Diwydiannol.

Ceiriog: Dyffryn Ceiriog -Y Waun – Croesoswallt

Wrecsam Canolog: Borras – Gwaunyterfyn /Acton – Little Acton – Maesydre – Rhosnesi – Offa – Erddig – Hermitage – Brynyffynnon -Rhosddu – Garden Village – Grosvenor – Stansty – Caia

Ardal Dyfrdwy: Rhos – Ponciau – Johnstown – Rhiwabon – Acrefair – Garth -Froncysyllte – Penycae – Pentrebychan – Y Bers – Rhostyllen – Cefnmawr -Trevor – Rhosymedre

Rhannu
Erthygl flaenorol Tîm Lleoedd Diogel yn falch o gynnal Disgo Tawel ac Arddangosfa Tân Gwyllt gyda Sŵn Isel Tîm Lleoedd Diogel yn falch o gynnal Disgo Tawel ac Arddangosfa Tân Gwyllt gyda Sŵn Isel
Erthygl nesaf ty pawb Ffair Recordiau Tŷ Pawb yn dychwelyd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English