Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei roi ar waith i helpu’r rhai ar incwm isel gyda chost gwisg ac offer ysgol i’w plant.
Ers i’r cyfnod ymgeisio agor yn ôl ym mis Gorffennaf eleni, mae llawer o rieni a gofalwyr eisoes wedi manteisio ar y cynllun hwn. Os ydych yn teimlo y gallech fod yn gymwys i gael y grant, mae gennym yr holl fanylion y mae angen i chi eu gwybod.
Cyllid ar gyfer pob oedran
Mae plant o bob oedran ysgol, o’r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11, i gyd wedi’u cynnwys yn y grant. Gallant dderbyn £125 drwy’r cynllun.
I’r plant hynny sy’n mynd i flwyddyn 7, mae ganddynt hawl i £200 o dan y cyllid.
Diben y grant
Os bydd ymgeiswyr yn gymwys i dderbyn y grant, mae’r arian a ddarperir yn helpu i dalu am bob math o hanfodion ysgol.
Mae gwisg ysgol a phecynnau chwaraeon, offer fel bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu, a gliniaduron a dyfeisiau llechen i gyd yn eitemau cymwys. Gall hefyd helpu i dalu am wisgoedd ar gyfer gweithgareddau ehangach fel chwaraeon, sgowtiaid a geidiaid.
Gellir talu am offer arbenigol pan fydd gweithgareddau cwricwlaidd newydd yn dechrau fel dylunio a thechnoleg gyda chymorth y grant. Hefyd, mae offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol yn ddilys o dan y grant fel dillad gwrth-ddŵr ar gyfer dysgu yn yr awyr agored.
Cymhwysedd
Mae unrhyw blentyn sy’n cael prydau ysgol am ddim ac sy’n mynychu ysgol yn Wrecsam yn gymwys i gael y grant. Maent hefyd yn gymwys os ydynt:
- Yn mynd i ddosbarth derbyn mewn ysgol gynradd
- Yn mynd i flynyddoedd ysgol 1 i 11
- Mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion ac yn 4 i 15 oed
Mae pob plentyn sy’n derbyn gofal yn gymwys i dderbyn y grant, waeth beth yw eu statws prydau ysgol am ddim.
Hysbysiad pwysig
Efallai y bydd angen i’r rhai sydd wedi cael cyfle o dan amgylchiadau o fewn y 12 mis diwethaf ail-wneud cais am brydau ysgol am ddim cyn gwneud cais am y grant. Unwaith y bydd eu cymhwysedd wedi’i gadarnhau, gallwch wneud cais am y grant.
Nid yw plant sy’n cael prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau amddiffyn wrth bontio yn gymwys i dderbyn y Grant Hanfodion Ysgol.
Nid yw plant sy’n cael prydau bwyd o dan y cynnig cyffredinol ac sydd yn y dosbarth derbyn i flwyddyn 6 yn gymwys i gael y grant chwaith.
Derbyn y grant
Bydd y rhai sy’n llwyddiannus yn eu cais yn derbyn eu taliad trwy Drosglwyddiad BACS i’w cyfrif banc.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Grant Hanfodion Ysgol, gallwch anfon e-bost at uniformgrant@wrexham.gov.uk am ragor o fanylion.
Fel arall, os hoffech wneud cais am y grant, ewch i’r dudalen Grant Hanfodion Ysgol ar ein gwefan.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae’n hanfodol bod gan bob plentyn gyfle teg a chyfartal o gael addysg. Ffactor allweddol i gael y gorau o’u hamser yn yr ysgol yw cael yr offer cywir i ddysgu. Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yn gyfle gwych i rieni a gwarcheidwaid sydd â dysgwyr ifanc dderbyn cymorth, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru”.


