Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 9, 2026 3:35 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Winter weather
RHANNU

Diweddariad 3.30pm – biniau ac ailgylchu

Cynnwys
  • Graeanu
  • Biniau ac ailgylchu
  • Rhestr pob ysgol sydd ar gau
  • Rhoi gwybod am faterion
  • Rhoi gwybod am ddigartrefedd

Yn dilyn trawiad y tywydd ar gasgliadau, yr wythnos nesaf rydym yn bwriadu casglu gwastraff cyffredinol, ailgylchu a gwastraff bwyd o bob cartref yn Wrecsam.

Ewch â’ch biniau a’ch blychau ailgylchu yn ôl i mewn am y tro a’u rhoi allan eto yn barod ar gyfer eich diwrnod casglu arferol yr wythnos nesaf. Gallwn dderbyn ailgylchu ychwanegol ar yr amod ei fod wedi’i gyflwyno’n gywir (manylion ar sut i wneud hyn yma). Peidiwch â gadael bagiau o wastraff cyffredinol wrth ymyl biniau gan na allwn eu derbyn.

Mae’r canolfannau ailgylchu ar agor fel arfer os oes angen i chi eu defnyddio, ond cymerwch ofal a theithiwch dim ond os yw’r amodau’n caniatáu.

Diweddariad 8.54am

Bydd Tŷ Pawb ar agor am 9am. Bydd y maes parcio ar agor o 9.30am ar ôl clirio eira

Diweddariad 7.45am

Rhestr pob ysgol sydd ar gau ar ein gwefan


Rhybudd tywydd

Graeanu

O 4pm ymlaen, bydd y gwaith graeanu yn parhau am o leiaf y 24 awr nesaf.

Mae’r cyngor yn parhau i graeanu llwybrau blaenoriaeth, a gellir dod o hyd i fanylion amdanynt ar-lein.

Rydym yn annog gyrwyr i gymryd gofal ychwanegol a gwneud teithiau hanfodol yn unig.

Biniau ac ailgylchu

Mae casgliadau biniau yfory (dydd Gwener) wedi cael eu gohirio oherwydd yr amodau gwael a rhagwelir.

Os ydych chi eisoes wedi derbyn e-bost awtomataidd yn gofyn i chi roi eich biniau / ailgylchu allan yfory, plîs anwybyddwch hwn.

Fodd bynnag, rydym yn bwriadu darparu casgliadau llawn yr wythnos nesaf gan gynnwys biniau du ac ailgylchu ar gyfer pob eiddo (yn dibynnu ar y tywydd).

Rhestr pob ysgol sydd ar gau

Edrychwch yma i weld os yw ysgol eich ysgol ar agor.

Rhoi gwybod am faterion

Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion brys (llifogydd, difrod oherwydd storm, coed wedi cwympo ac ati) ar y rhifau canlynol:

  • (24 awr) 01978 298989
  • Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993. Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk

Ffoniwch ni os yw’n fater brys yn unig – ar gyfer materion eraill, helpwch ni trwy roi gwybod am faterion ar-lein:

  • Materion cyffredinol
  • Gwaith trwsio tai

Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105. (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).

Gellir rhoi gwybod i Dŵr Cymru ar 0800 085 3968 am unrhyw argyfyngau lle bydd carthion yn gorlifo o ddraeniau.

Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.

Rhoi gwybod am ddigartrefedd

Os ydych yn ddigartref neu’n poeni o fod mewn risg o fod yn ddigartref, gallwch ffonio ein tîm Dewisiadau Tai unrhyw adeg ar 01978 292947.

Gallwch ddefnyddio gwefan Streetlink neu ap symudol Streetlink i anfon rhybudd ynghylch rhywun yr ydych yn pryderu amdano sydd yn cysgu allan.

Mae darparu gymaint o fanylion â phosibl yn rhoi siawns gwell i’r tîm estyn allan yn ardal Wrecsam leoli’r unigolyn a chynnig Cymorth.

Gallwn bob amser gynnig cyngor, a byddwn yn ceisio darparu Cymorth pe.

Storm Goretti - diweddariad tywydd 9.1.26
Rhannu
Erthygl flaenorol wellbeing hub Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Erthygl nesaf Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English