Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 8, 2026 9:38 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
RHANNU

Erthygl gwadd – Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Mae digwyddiad atal trosedd wedi’i ariannu’n llawn sy’n canolbwyntio ar fusnesau yng Ngogledd Cymru yn cael ei gynnal yn Wrecsam ar 5 Chwefror 2026. Mae perchnogion busnesau o bob rhan o’r rhanbarth yn cael eu hannog i archebu eu lle ac ymuno ar y diwrnod. Wedi’i drefnu mewn partneriaeth gan Dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Canolfan Gwydnwch Seiber Cymru, a Llywodraeth Cymru, mae’r Digwyddiad Atal Trosedd Busnes Gogledd Cymru yn siŵr o fod yn ddigwyddiad hynod addysgiadol sy’n edrych ar sut i gadw busnesau’n saff rhag trosedd.

Mae trosedd busnes yn faes troseddoldeb sydd ar gynnydd yn gyflym. Y llynedd, amcangyfrifodd Llywodraeth y DU bod 26% (409,000) o’r holl adeiladau busnes yng Nghymru a Lloegr wedi dioddef unrhyw drosedd arolwg erledigaeth fasnachol (CVS) yn ystod y 12 mis blaenorol. Mae hyn yn cynnwys byrgleriaeth, fandaliaeth, lladrad sy’n gysylltiedig hefo cerbydau, lladradau, ymosodiadau neu fygythiadau, a thwyll. Mae’r ffigurau syfrdanol hyn yn golygu bod cynhadledd fel Digwyddiad Atal Trosedd Busnes Gogledd Cymru yn bwysicach rŵan nag erioed wrth i fusnesau barhau ymdopi hefo economi’r DU sy’n profi twf isel a bygythiadau eraill i hyder busnes.

Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys bygythiadau’r gadwyn gyflenwi; bygythiadau DA sy’n dod i’r amlwg; seiber hanfodol i fusnesau; diogelwch corfforol i fusnesau; a sut y bydd diogelu eich busnesau yn tawelu eich meddwl chi ar gyfer y dyfodol.

Bydd y digwyddiad hanner diwrnod rhad ac am ddim hwn yn cael ei gynnal ar 5 Chwefror 2026 yn Nhŵr Redwither ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, a bydd yn cynnwys cyfraniadau gan siaradwyr a sefydliadau o’r radd flaenaf gan gynnwys:

  • Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • Uned Troseddau Trefnedig Gogledd Orllewin Lloegr
  • Canolfan Seibergadernid yng Nghymru 
  • D G Security Consultancy
  • Global Security Management – DTCC
  • Tîm Troseddau Seiber, Heddlu Gogledd Cymru
  • Dr Huw Vaughan Jones, Jovasi Technology 

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae trosedd yn erbyn busnesau’n faes troseddoldeb sy’n cynyddu’n gyflym ac yn un dwi’n benderfynol o frwydro yn ei erbyn yng Ngogledd Cymru. Bydd y digwyddiad atal trosedd busnes hwn yn cynnig cyfle i berchnogion busnes ledled y rhanbarth ddod at ei gilydd, clywed gan yr arbenigwyr, a dysgu sut i gadw eu gweithrediadau’n ddiogel rhag troseddwyr. Mae digwyddiad fel hyn yn hanfodol ar adeg pan mae llawer o fusnesau yn cael trafferth hefo’r argyfwng costau byw a rhagolygon economaidd sensitif ac yn methu dioddef trosedd. Felly, dwi’n falch iawn o fod yn gweithio hefo’r Tîm Troseddau Seiber yn Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid allweddol eraill i gynnal y digwyddiad hwn. Byddwn ni’n annog pob perchennog busnes yn y rhanbarth i ystyried mynychu ac archebu eu lle rŵan.”

Dywedodd Ditectif Ringyll Roheryn Evans o Heddlu Gogledd Cymru: “Gall troseddau yn erbyn busnesau gael effaith fawr yn erbyn y gymuned ehangach. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o’ch busnes yn rhan o gadwyn gyflenwi sy’n effeithio ar fusnesau eraill, neu os ydy trosedd yn effeithio’n ariannol arno. Mae’n golygu y bydd llai o arian yn ein heconomi leol ni.

“Gall trosedd effeithio ar fusnes naill ai’n gorfforol neu’n ddigidol ac mae’r ddau yn bwysig. Hefo’r sesiwn hon byddwn ni’n ymdrin hefo sut y gallwch chi warchod eich asedau corfforol er mwyn atal colli a difrod i eiddo, ond hefyd sut i ddiogelu eich seilwaith digidol a pha offer a safonau busnes am ddim all helpu i’ch gwarchod chi rhag troseddau trefnedig.”

Pryd: 5 Chwefror 2026, cyrraedd 8:30 dechrau 9.00-13.00

Lleoliad: Tŵr Redwither, Wrecsam, LL13 9XT

Cost: Yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa: Perchnogion a gweithredwyr busnesau bach a chanolig ledled Gogledd Cymru
Tocynnau: Archebwch docynnau yma rŵan: 

TAGGED:#PCC
Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham's Year of Wonder Digwyddiad lansio Blwyddyn o Ryfeddod Wrecsam
Erthygl nesaf Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English