Rydym yn falch o gael cydweithio gyda Hosbis Tŷ’r Eos a Dôl yr Eryrod i gynnal digwyddiadau arbennig i nodi dechrau tymor y Nadolig yng nghanol y ddinas!
Mae’r digwyddiadau yn dechrau gyda Gweithdai Gwneud Llusernau Nadolig o 1 Tachwedd yn Nhŷ Pawb yn y Lle Celf Ddefnyddiol.
Dydd Sul, 11 Tachwedd – 1.00pm – 3.00pm
Cofrestru yn £6 y plentyn (oedolion yn mynd am ddim) ac mi fyddwch yn derbyn llusern bapur i’w haddurno a channwyll batri bach. Mae cofrestru ar gyfer y gweithdai hyn hefyd yn cynnwys mynediad i Orymdaith Llusern Wrecsam ar 18 Tachwedd.
Gallwch gofrestru trwy wefan Hosbis Tŷ’r Eos.
18 Tachwedd – Diwrnod Hwyliog Nadoligaidd ar Sgwâr y Frenhines
- Ffair a Stondinau Nadoligaidd – o 11:00
- Bandiau Pres yn perfformio o amgylch y goeden – trwy gydol y dydd
Y bandiau pres a fydd yn perfformio yw Band Pres Dinas Wrecsam, Band Cyngerdd Wrecsam a Band Cymunedol Bellevue.
- Gweithdy Gwneud Llusern – 11:00am ymlaen (Byddwch angen cofrestru ar gyfer y gweithdy trwy Wefan Tŷ’r Eos uchod)
- Carolau o gwmpas y goeden – 4.00pm – 4.20pm
- Gorymdaith Llusern yn dechrau yn Sgwâr y Frenhines ac yn gorffen yn Nôl yr Eryrod.
- Taith gerdded noddedig gyda llusernau i oleuo’r ddinas gyda’r goleuadau Nadolig yn cael eu troi ymlaen wrth i’r orymdaith basio trwy bob stryd.
Llwybr y Daith Lusernau:
Bydd enwau’r rheiny sy’n cofrestru ac yn codi £25 mewn arian noddi yn cael eu rhoi mewn raffl i ennill taleb rhodd i ganolfan siopa Dôl yr Eryrod sy’n cynnwys 3 mis o barcio car, 4 tocyn Odeon a 2 gêm o fowlio i 6 o bobl.
Sioe Fawr Derfynol yn Nôl yr Eryrod – 5.00pm – 7.00pm
Mae digwyddiad ‘Troi’r Goleuadau Nadolig Ymlaen’ yn Nôl yr Eryrod yn dechrau am 3.00pm a bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn yr Orymdaith Llusernau yn cael eu harwain i Ddôl yr Eryrod erbyn tua 5.00pm.
- Bydd cerddoriaeth fyw gan Andy Bennett (Ocean Colour Scene), Dene Michaels (Black Lace) a Oceanic o 5.00pm ymlaen.
Paratoi ar gyfer Nadolig gwych yng nghanol y ddinas
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol ar gyfer Economi ac Adfywio, “Mae’n addo i fod yn ddigwyddiad arbennig iawn ac mae staff wedi gweithio’n galed gyda’n partneriaid i sicrhau dechrau hudolus i Dymor y Nadolig.
“Dwi’n gobeithio y bydd cymaint ag sy’n bosib o deuluoedd ac ymwelwyr yn gallu ymuno â ni i gefnogi’r digwyddiad a busnesau lleol yng nghanol y ddinas.
“Rydym yn falch o fod yn cefnogi menter codi arian Hosbis Tŷ’r Eos am ei fod yn elusen hollol hanfodol yn Wrecsam.
Diolch hefyd i Ddôl yr Eryrod am gynnal y cyngerdd terfynol.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Mae ein harddangosfa newydd nawr ar agor – Print Rhyngwladol 2023