1. Mae Cyfrifiad 2021 drosodd – Rydw i wedi methu Diwrnod y Cyfrifiad, felly nid oes rhaid i mi ei wneud
Anghywir! Mae gofyn i bob aelwyd, yn ôl y gyfraith, gwblhau’r cyfrifiad, ac er bod Diwrnod y Cyfrifiad – Mawrth 21, 2021 – wedi pasio, nid yw’n rhy hwyr cwblhau’r holiadur. Bu ymateb gwych i Gyfrifiad 2021 hyd yma, ond mae’n rhaid i bawb ymateb cyn gynted â phosib i osgoi dirwy.
Mae Diwrnod y Cyfrifiad wedi mynd heibio. Rhaid i chi lenwi holiadur y cyfrifiad, os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod. Os bydd angen help arnoch, ewch i https://t.co/GMkymxrZtK neu ffoniwch 0800 169 2021.#Cyfrifiad2021 @Cyfrifiad2021 pic.twitter.com/kYBcZygWq7
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 22, 2021
2. Nid yw myfyrwyr yn cael eu cyfri yn y Cyfrifiad
Mae myfyrwyr yn hollbwysig, ac maent yn cyfri! Mae’n rhaid i fyfyrwyr gael eu cynnwys yn y Cyfrifiad, a dylent gwblhau’r ffurflen ar gyfer eu cyfeiriad yn ystod y tymor, hyd yn oed os nad oeddent yno ar ddiwrnod y cyfrifiad. Os ydynt yn byw yn eu cyfeiriad cartref ar hyn o bryd, bydd angen eu cynnwys yn y cyfrifiad ar gyfer yr aelwyd hwnnw hefyd.
Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol, ac nid ydych yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd, ond y byddech fel arfer, mae’n rhaid i chi gael eich cyfrif hefyd. Mae gan brifysgolion a cholegau fanylion ar sut i gael ffurflen cyfrifiad, neu ewch i https://cyfrifiad.gov.uk/ a gwnewch gais am god mynediad.
3. Rydych ond yn cyfri eich hun yn y tŷ yr oeddech ynddo ar Ddiwrnod y Cyfrifiad
Mae angen i bawb gwblhau a dychwelyd ffurflen yn eu cyfeiriad arferol, hyd yn oed os nad oeddent yno ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, oherwydd bydd angen gwasanaethau yn y ddau gyfeiriad. Os yw’r pandemig wedi newid lle rydych yn byw ar hyn o bryd, er enghraifft, os ydych chi wedi symud allan o ddinas i gartref gwyliau cyn y cyfyngiadau clo, neu os nad ydych wedi ymweld â’ch fflat cymudo oherwydd y cyfnod clo, mae’n rhaid i chi gwblhau cyfrifiad yn y ddau gyfrifiad. Ewch i https://cyfrifiad.gov.uk/ i wneud cais am god mynediad ar gyfer eich ail gyfeiriad.
4. Nid oes angen i chi gwblhau ffurflen ar gyfer tŷ gwag
Mae’n bwysig bod ffurflen cyfrifiad yn cael ei chwblhau ar gyfer pob tŷ, hyd yn oed os nad oes unrhyw un yn byw yno fel arfer – er enghraifft, cartref gwyliau – oherwydd mae’n gyfrifiad o dai yn ogystal â chyfrifiad poblogaeth. Mae angen i gynghorau lleol wybod am yr holl dai yn eu hardal, fel y gallant gynllunio gwasanaethau a chanfod faint o dai sydd angen eu hadeiladu. Ewch i https://cyfrifiad.gov.uk/ i wneud cais am god mynediad os ydych yn berchen ar dŷ, fflat neu garafán wag.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
5. Nid ydw i’n ddinesydd Prydeinig, felly nid oes rhaid i mi gael fy nghyfri
Mae’n rhaid i bawb sy’n aros yng Nghymru a Lloegr ar ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth, gael eu cyfri.
6. Bydd fy ngwybodaeth yn cael ei rhannu
Dydi hynny ddim yn wir. Mae data personol o’r cyfrifiad yn cael ei gadw dan glo am 100 mlynedd. Nid oes modd adnabod unigolion nac ychwaith eu hymatebion o’r ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi. A dweud y gwir, nid oes modd i unrhyw un sy’n gwneud penderfyniadau amdanoch weld eich gwybodaeth bersonol. Nid yw’r llywodraeth yn gallu ei defnyddio i ddylanwadu ar hawliau buddion, cais am breswyl, statws mewnfudwr neu drethi, neu gan landlordiaid, neu unrhyw sefydliad preifat arall.
7. Does yna ddim pwynt i’r cyfrifiad. Nid yw’n fy helpu.
Mae’r cyfrifiad o fudd i ni drwy danategu yr holl wasanaethau y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt. Mae’n rhoi gwybodaeth ar ein trefniadau byw, iechyd, addysg a’r swyddi rydym yn eu gwneud, a bydd gwybodaeth ohono yn helpu i nodi polisïau ar lefel genedlaethol am flynyddoedd i ddod.
O leoedd ysgolion i gynllunio ar gyfer lonydd beics – mae gwybodaeth o’r cyfrifiad hyd yn oed yn cael ei defnyddio i adeiladu archfarchnadoedd newydd, pa fwyd sy’n cael ei roi ar y silffoedd a faint o leoedd parcio rhieni a phlant bach i’w rhoi yn y maes parcio.
8. Os nad oes modd i chi fynd ar-lein, nid allwch wneud y cyfrifiad
Dyma’r tro cyntaf erioed y gofynnwyd i bawb ymateb ar-lein os ydyn nhw’n gallu, a bu ymateb gwych i hyn. Os ydych chi’n adnabod rhywun nad oes ganddynt y sgiliau neu’r hyder i’w gwblhau ar-lein, mae help ar gael. Ewch i https://cyfrifiad.gov.uk/help/chwilio-am-ganolfan-cymorth-y-cyfrifiad
Gallwch ffonio Canolfan Gyswllt Cyfrifiad 2021 ar 0800 169 2021 am help neu i archebu copi caled o’r holiadur.
9. Bydd swyddogion y Cyfrifiad yn gofyn am wybodaeth bersonol
Bydd swyddog maes yn gofyn am enw deiliad y tŷ a rhif ffôn os ydynt yn gwneud cais am god newydd ar-lein. Byddant yn gofyn am enw’r deiliad tŷ os ydynt yn gwneud cais am gopi caled o’r holiadur.
Serch hynny, ni fyddant yn gofyn i weld dogfennau personol megis pasbortau neu dystysgrifau geni. Ni fydd swyddogion maes yn gofyn am daliad, a byth yn dod i mewn i’ch cartref.
10. Bydd swyddogion y Cyfrifiad yn rhoi dirwy i chi ar eich stepen drws
Peidiwch â chael eich twyllo. Ni fydd swyddogion maes yn gofyn am daliad ar eich stepen drws. Swydd y swyddogion maes yw cynnig cymorth ac anogaeth i’r sawl nad ydynt wedi llenwi holiadur y Cyfrifiad ar-lein neu ar bapur ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad a’u cyfeirio at wasanaethau cymorth pan fo’r angen. Byddant yn gweithredu yn yr un modd ag y byddai’r post neu gyflenwad bwyd yn ymweld. Maent yn cario cerdyn hunaniaeth hefyd i ddangos eu bod gwirioneddol yn gweithio ar y cyfrifiad.
Mae pobl yn derbyn cefnogaeth i ymateb i’r cyfrifiad, ond os yw aelwyd yn gwrthod llenwi’r holiadur, bydd hyn yn arwain at gyfweliad dan rybudd, a all arwain at wŷs, dirwy o hyd at £1,000 a chofnod troseddol.
11. Mae’n rhaid i mi dalu dirwy ar-lein am wneud camgymeriad ar fy nghyfrifiad
Peidiwch â chael eich twyllo. I gael dirwy, mae’n rhaid i chi fynd i’r llys am beidio â chwblhau’r cyfrifiad. Ni fyddwch yn cael dirwy drwy neges destun, ar y cyfryngau cymdeithasol nac ychwaith dros e-bost. Mae’r tîm Cudd-Wybodaeth Seibr yn chwilota’r we am safleoedd gwe-rwydo ac yn eu dileu. Os ydych chi’n canfod safle sy’n ymddangos yn amheus, neu’n derbyn neges destun gyda dolenni i safleoedd yn gofyn am arian mewn perthynas â’r cyfrifiad, peidiwch ag ymgysylltu â hwy. Cofiwch eu hadrodd i Ganolfan Gymorth Cyfrifiad 2021 hefyd drwy ffonio 0800 169 2021.
Cyfrifiad 2021 – llythyrau atgoffa, ymweliadau staff maes a chyngor ar sgamiau
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF