Mae Chwaraeon Cymru am gael eich barn ar weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.
Mae’r ymgynghoriad yn dilyn ymarfer rhwng Tachwedd 2017 a Chwefror 2018 pan ofynnwyd i Gymru gyfan ymuno mewn “sgwrs” genedlaethol i helpu i siapio gweledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru. Mae’r weledigaeth ddrafft wedi ei chyhoeddi bellach fel ymgynghoriad ffurfiol a gofynnir i chi gymryd rhan.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig. Mae chwaraeon i bawb, ac yn Wrecsam, fel yng ngweddill Nghymru, mae’r dyfodol yn ein dwylo ni i ddweud ein barn. Rwy’n annog pawb i ddilyn y ddolen isod a chwarae eu rhan yn yr ymgynghoriad hwn.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Mae’r ymgynghoriad ar agor nes 30 Ebrill.
Gallwch cymryd rhan yma
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.