Mae McCarthy Distribution o Wrecsam wedi rhoi mwy na 50 o baledi i Glwb Criced Brymbo fel y gall tîm o 30 o wirfoddolwyr ailadeiladu ffens perimedr y clwb sydd wedi’i ddifrodi.
Mae’r clwb, sy’n rhan o gyfadeilad Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo ac sydd wedi bod yng nghalon y gymuned am fwy na 100 mlynedd, yn hunangyllidol ac yn dibynnu ar grantiau, rhoddion a nawdd i dalu cost gwaith cynnal a chadw hanfodol ac offer newydd. Mae hefyd wedi meithrin doniau rhai o chwaraewyr gorau Gogledd Cymru.
Ers mis Hydref, torrwyd i mewn i’r pafiliwn deirgwaith ac mae’r clwb bellach yn wynebu bil ailaddurno mawr ar ben yr angen am rwyd hyfforddi newydd. Mae’r rhodd o baledi yn sicrhau bod yna un gorchwyl cynnal a chadw yn llai i’w ariannu.
Esboniodd Mike McCarthy, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp McCarthy: “Mae Cadeirydd Brymbo, Nigel Roberts a’i wraig Jane, yn ffrindiau i ni ac mae’r clwb wedi dioddef o rywfaint o ddifrod yn ddiweddar.
“Mae gennym ni ormodedd o baledi bob amser. Weithiau maen nhw’n mynd i’r melinau llifio neu’n cael eu hanfon i sgrap ond os allwn ni ddod o hyd i bobl sy’n gallu gwneud defnydd da ohonyn nhw, mae hynny i gyd yn helpu. Roeddem yn fwy na pharod i ddanfon y paledi a helpu’r clwb.
“Fel busnes, rydyn ni’n hoffi helpu’r gymuned leol. Rydym yn ceisio gwneud yr hyn a allwn.
“Mae Nigel wedi bod yn gampwr a chricedwr llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd ac yn rhoi llawer iawn o amser ac ymdrech i mewn i’r clwb criced. Roeddem yn falch iawn o ddarparu ein cefnogaeth yn y ffordd fach hon.”
Mae’r clwb wedi mwynhau llwyddiant meteorig dros y blynyddoedd, gan ennill teitlau cynghrair, Cwpanau Cymru a bron bob anrhydedd criced yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd cadeirydd newydd y clwb, Nigel Roberts, cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, chwaraewr y Siroedd Lleiafrifol a chwaraewr chwedlonol Clwb Criced Brymbo, ei fod yn ased hanfodol ac yn holl bwysig i fywyd y gymuned.
“Fel y cadeirydd newydd, rwy’n amlwg yn chwilio am ffyrdd i wella’r clwb,” meddai Nigel, sydd wedi bod yn ymwneud â chriced Brymbo ers dros 50 mlynedd ac yr oedd ei ddiweddar dad, Dilwyn, a’i frawd Ross hefyd yn chwaraewyr rhagorol.
“Mae gennym ni ffens biced o amgylch perimedr y cae criced sy’n dioddef ar draul y tywydd ac sydd mewn cyflwr eithaf gwael.
“Roeddem yn meddwl am sut y byddem yn gallu ei drwsio pan gysylltodd fy ngwraig Jane â Louise, sy’n hen ffrind coleg, a gofyn a oedd ganddyn nhw unrhyw baledi o gwmpas nad oedden nhw eu heisiau.
“Roedd yn fendith pan ddwedodd Mike y gallai helpu ac roedd yn driw i’w air.
“Mae Brymbo yn gymuned glos iawn. Mae’r clwb criced yn gaffaeliad mawr i’r ardal ac mae’n rhan o’r ganolfan chwaraeon ehangach.
“Rydyn ni bob amser yn chwilio am nawdd a pha bynnag wasanaethau materol neu roddion arian parod y gallwn eu cael i’n helpu. Mae croeso i unrhyw fath o fusnes neu gwmni gymryd rhan.”
Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar drawsnewid yr estyll pren yn byst newydd a dylai’r ffens 300 metr fod wedi’i drwsio’n gyfan gwbl ymhell cyn dechrau’r tymor nesaf.
Ychwanegodd Nigel: “Mae gennym rhwng 20 a 30 o wirfoddolwyr sy’n helpu mor aml ag y gallant yn ystod y cyn-dymor. Eleni mae’n gyn-dymor arbennig o hir gyda Covid-19.
“Ein rheolwr cynnal a chadw yw Johnny Lister ac mae wedi gwneud gwaith gwych yn trefnu’r holl wirfoddolwyr hyn.”
Yn wreiddiol, roedd Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo yn eiddo i Gwaith Dur Brymbo ac fe’i ffurfiwyd ym 1882.
Symudodd i’w safle presennol yn Heritage Way, Tanyfron, ym 1979 ac ar hyn o bryd mae ganddo dri thîm hŷn a thri thîm iau rhwng pump a 15 oed, gyda mwy na 100 o aelodau.
“Mae’r clwb ymhell dros 100 mlwydd oed ac yn un o hoelion wyth cymuned Brymbo a Wrecsam ac mae wedi bod yn glwb criced llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd,” meddai Nigel, batiwr llaw chwith toreithiog a phwerus ar ei orau ac yn droellwr clyfar.
“Rydyn ni wedi ennill popeth gan gynnwys cynghreiriau, Cwpanau Cymru a chystadlaethau – enwch nhw, ac rydyn ni wedi’i ennill.
“Daeth David Lloyd, capten Morgannwg, trwy ein system yn ifanc a chwarae i ni. Mae yna dipyn o bobl ifanc yn dod drwodd nawr. Rydyn ni’n glwb teulu a dros y blynyddoedd bu Lloyds, Smiths a Roberts a thadau, meibion, brodyr ac ati. Mae’n awyrgylch teuluol.
“Mae gennym dîm da o hyfforddwyr gwirfoddol sydd wir yn profi gallu’r plant. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc yn y gymuned.”
Yn ystod y cyn-dymor, lluniodd y clwb becyn noddi i annog cwmnïau lleol i gefnogi eu gweithgareddau. Yn gyfnewid am eu cefnogaeth, bydd cwmnïau’n gallu hysbysebu eu gwasanaethau o gwmpas y maes.
“Dim ond trwy godi arian a’r byrddau hysbysebu o amgylch y clwb y gallwn gynhyrchu incwm,” meddai Nigel.
“Mae angen cyfleuster rhwyd awyr agored newydd arnom ac rydym yn aros am ganlyniad grant ar gyfer hynny. Rydyn ni’n obeithiol y byddwn ni’n clywed yn fuan. Mae’n costio £35,000 ar gyfer y rhwyd yn unig.
“Mae gennym ni dipyn o waith i’w wneud gyda’r pafiliwn. Mae rhywun wedi torri i mewn dair gwaith ers mis Hydref, a’r diweddaraf ohonynt wedi digwydd dair wythnos yn ôl. Bydd yr yswiriant yn gofalu am adeiladwaith yr adeilad ei hun ond ni fydd yn talu am lanhau nac addurno na chael gwared ar y llanast, ni fydd yn gofalu am hynny.”
Yn ddiweddar, darparodd McCarthy Distribution baledi a hen deiars tryciau i Feithrinfa Homestead yn Gresffordd i adeiladu tai coed, llwybrau antur a strwythurau eraill i’r plant chwarae arnynt.
“Rydyn ni’n ceisio helpu os gallwn ni. Nid yw pawb eisiau paledi, wrth gwrs, ond mae wedi bod yn ddefnyddiol i’r feithrinfa a byddwn yn cyflenwi mwy iddynt yn y dyfodol,” meddai Mike.
“Fel busnes, rydym yn poeni am ein heffaith amgylcheddol ac rydym wrth ein bodd yn gweld ein deunyddiau dros ben yn cael eu defnyddio mewn ffordd mor gynhyrchiol er budd y gymuned.”
Yn y llun (Chwith) Mike McCarthy, Rheolwr Gyfarwyddwr McCarthy Distribution gyda’r Cydlynydd Cynnal a Chadw Jonny Lister a Nigel Roberts, Cadeirydd y Clwb.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN