Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cofio trychineb Pwll Glo Gresffordd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cofio trychineb Pwll Glo Gresffordd
Pobl a lle

Cofio trychineb Pwll Glo Gresffordd

Diweddarwyd diwethaf: Medi 18, 2020 10:50 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Gresffordd Colliery
Llun trwy garedigrwydd Wrexham.com
RHANNU

Mae dydd Mawrth, 22 Medi yn nodi 86 mlynedd ers trychineb Pwll Glo Gresffordd, un o drychinebau mwyaf Wrecsam.

Cynnwys
  • “Anghofiwn ni fyth”
  • Dychmygwch…
  • ‘Yn union fel uffern’
  • Y canlyniadau

Yn sgil y cyfyngiadau presennol, dim ond plant ac wyrion ac wyresau dioddefwyr y drychineb fydd yn bresennol yn y seremoni am 11am ger y Gofeb ar Bluebell Lane, Pandy eleni.

Gofynnir i bawb arall sydd eisiau rhoi teyrnged i wneud hynny ar ôl 12pm (cadwch bellter cymdeithasol).

“Anghofiwn ni fyth”

Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Rob Walsh: “Fe deimlodd pawb yn Wrecsam effaith drom trychineb Pwll Glo Gresffordd, gan y bu farw rhywun o bron pob pentref yn y fwrdeistref sirol. Eleni mae hi’n 86 mlynedd ers i 266 o ddynion a bechgyn golli eu bywydau mewn amgylchiadau mor ofnadwy.

“Dioddefodd cymaint o deuluoedd ar draws Wrecsam yn ofnadwy wrth i’r ffrwydradau adael nifer fawr o bobl yn weddwon a heb dadau…a thua 1,600 o bobl yn ddi-waith. Mae’n rhan eithriadol o drist o’n hanes yn Wrecsam, ac anghofiwn ni fyth amdano.”

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Dyma rywfaint o gefndir i’r drychineb…

Dychmygwch…

Mae’n nos Wener, 21 Medi, 1934. Mae 266 o ddynion yn mynd i lawr i adran Dennis pwll glo Gresffordd er mwyn cychwyn eu shifft. Mae’n brysurach nac arfer gan bod llawer ohonynt yn ‘dyblu fyny’ er mwyn bod yn rhydd i wylio gêm bêl-droed Wrecsam ar y prynhawn dydd Sadwrn. Yn anffodus, dim ond 6 ohonyn nhw fydd yn dychwelyd.

Am 2:08am fore Sadwrn (22 Medi), rhwygodd ffrwydriad drwy’r pwll glo, gan ladd nifer fawr o lowyr.

Mae Edward William, Cynorthwywr Injan yn Dennis ar y pryd yn cofio: “Daeth yn nes fel taran ac yna aeth pobman yn ddu. Allech chi ddim gweld unrhyw beth.”

‘Yn union fel uffern’

Anfonwyd dros 200 o weithwyr achub mewn ymdrech i achub y glowyr. Dim ond 11 corff a adferwyd – a thri o’r rheiny yn perthyn i’r tîm achub cyntaf. Dywedodd un o’r achubwyr bod y pwll glo ‘yn union fel uffern’.

Pan gyrhaeddodd y newyddion y dref, ymgasglodd torfeydd o amgylch y pwll – menywod a phlant yn aros am anwyliaid na fyddent byth yn dod adref.

Wedi 40 awr o waith caled daeth yn amlwg i’r achubwyr nad oedd neb ar ôl yn fyw i’w hachub, felly penderfynwyd cau’r siafftiau am 6pm ar y prynhawn Sul.

Y canlyniadau

Roedd trychineb Pwll Glo Gresffordd yn un o drychinebau gwaethaf Wrecsam… ond nid oes llawer o sylw wedi ei roi i ganlyniadau’r drychineb, a’r effaith a gafwyd ar deuluoedd a chydweithwyr y dioddefwyr. O ganlyniad i’r ffrwydriad, roedd 200 yn weddw, 800 heb dad a 1,600 yn ddi-waith.

Roedd hyn mewn cyfnod lle nad oedd yr un cyfleoedd gan fenywod ag oedd gan ddynion. Roedd colli gŵr yn golygu mwy na bod yn wraig weddw alarus…roedd yn golygu bod yn weddw gyda’r cyfrifoldeb o ddarparu ar ei chyfer ei hun a’i phlant heb unrhyw ffynhonnell incwm.

Bu’n rhaid i weddill y dynion a gyflogwyd yn y pwll glo edrych am waith arall – yn aml heb unrhyw lwc. Roedd y dyfodol i’w weld yn ddigalon iawn i Wrecsam; byddai rhai yn ei chael hi’n anodd goroesi hyd yn oed. Byddai’n chwe mis tan i’r pwll ail agor.

Bu’r drasiedi yn y newyddion cenedlaethol a derbyniodd gydnabyddiaeth gan y Brenin. Lledodd y gair am y teuluoedd oedd yn ei chael hi’n anodd a sefydlwyd cronfa gymorth er mwyn helpu’r rheiny oedd mewn angen. Codwyd mwy na £550,000, fodd bynnag ni ellid gwneud iawn am y bywydau a gollwyd.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Penny Black Cyflwyno Hysbysiad Gwella ar Penny Black i ddiogelu cwsmeriaid a staff
Erthygl nesaf Bus Services Newyddion da i ddefnyddwyr fysiau gydag Arriva yn cyhoeddi mwy o wasanaethau i gadw chi’n symud

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English