Gyda dim ond 2 wythnos i fynd tan y dyddiad cau cofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai, 2026, os ydych chi eisiau pleidleisio, rhaid gwneud yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw hanner nos, dydd Llun 20 Ebrill. Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein ar dudalen cofrestru i bleidleisio GOV.UK – dim ond pum munud y mae’n ei gymryd.
Cyn belled â’ch bod wedi cofrestru, byddwch yn cael cerdyn pleidleisio cyn 7 Mai fel y gallwch bleidleisio’n bersonol ar ddiwrnod yr etholiad. Byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy.
Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos prawf adnabod â llun i bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Dywedodd Alwyn Jones, swyddog canlyniadau etholaethol Fflint Wrecsam: “Heb gofrestru i bleidleisio, byddwch chi’n colli eich cyfle i ddweud eich dweud yn etholiad y Senedd ym mis Mai. Mae etholiadau’r Senedd yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud ar bwy sy’n eich cynrychioli ac sy’n gwneud penderfyniadau am faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywyd bob dydd.”
Dywedodd Rhydian Thomas, pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru: “Mae’n bwysig bod pobl yn gwneud yn siŵr eu bod yn barod i bleidleisio cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Rhaid i bob pleidleisiwr fod wedi cofrestru, ac efallai y bydd angen i rai wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae pobl ifanc 16-17 oed a gwladolion tramor sy’n byw yng Nghymru hefyd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn, ac ni fydd angen prawf adnabod â llun.
“Os ydych chi wedi newid eich enw, eich cyfeiriad neu wedi symud yn ddiweddar ers i chi gofrestru ddiwethaf, dim ond pum munud y mae’n ei gymryd i ddiweddaru eich manylion ar-lein. Mae gwneud yn siŵr nawr yn helpu i sicrhau eich bod chi’n gallu pleidleisio mewn ffordd sy’n iawn i chi.”
Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer yr etholiad hwn ar gael ar dudalen we Senedd Cyngor Wrecsam, yn ogystal â thrwy’r Comisiwn Etholiadol.
Cofrestrwch i bleidleisio mewn pryd ar gyfer Etholiad y Senedd ar 7 Mai, 2026.



