Mae rhaglen Cymru Iach ar Waith sy’n cael ei redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru wedi ail-asesu ein Safon Iechyd Corfforaethol y mis hwn.
Rydym wrth ein bodd ac yn falch iawn i gyhoeddi ein bod wedi parhau i gynnal ein safon Lefel Aur!
Roedd yn bleser arddangos yr holl waith da yr ydym yn ei wneud ar amryw o bynciau, ac roedd ein llythyr cadarnhad gan Cymru Iach ar Waith yn cynnwys y sylwadau canlynol…
“Mae ethos a diwylliant lles yng Nghyngor Wrecsam yn gynyddol a chynhwysfawr, a bellach wedi esblygu i gynnwys blaenoriaethau fel arweinyddiaeth dosturiol, gan gynnal lles gweithlu sy’n heneiddio a lles ariannol.
“Mae’n werth nodi yn arbennig fod lles yn uchel ar raglen yr uwch dîm arweinyddiaeth a’r Aelodau Etholedig, o ran cefnogaeth i fentrau a gweithgareddau fel y digwyddiad Amser i Siarad, ond hefyd o ran amser ac egni sydd wedi’i neilltuo i greu isadeiledd cadarn i les staff.
“Mae lles wrth wraidd y ffordd y mae’r cyngor yn gweithredu, a oedd yn glir iawn wrth ysgrifennu’r cais ysgrifenedig hwn ar gyfer yr asesiad, ac yn y cyfarfodydd asesu llawn gwybodaeth eu hunain ac o’r enghreifftiau o straeon personol a gafodd eu rhannu gyda’r asesydd.
“(Mae) partneriaeth gadarn ac effeithiol gyda’r Undebau Llafur yn allweddol i ddosbarthu a mewnosod diwylliant iechyd a lles ar draws y Cyngor.
“Mae yna ymrwymiad diriaethol i les meddyliol yng Nghyngor Wrecsam, sy’n canolbwyntio’n sylweddol ar atal.”
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol: “Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i bawb sy’n hyrwyddo’r gwaith pwysig hwn ar draws y cyngor. “Mae cynnal ein safon Lefel Aur yn gydnabyddiaeth wych o’r diwylliant cynyddol o hyrwyddo lles cadarnhaol sydd gennym yng Nghyngor Wrecsam.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD