Mae Tenantiaid Tai Gwarchod o Frymbo a Bryn Cefn wedi cael mynd allan i ginio am ddim mewn digwyddiad a drefnwyd yn arbennig.
Cafwyd y cinio yng Nghanolfan Fenter Brymbo, ger safle treftadaeth y gwaith dur enwog.
Ymunodd aelodau o Glwb Cinio Brymbo â’r tenantiaid ar gyfer y digwyddiad.
Ymdrech cymunedol
Trefnwyd y cinio gan yr Aelod Lleol ar gyfer Brymbo, y Cynghorydd Paul Rogers a’r Aelod Lleol ar gyfer Bryn Cefn, y Cynghorydd Beverly Parry-Jones. Darparwyd y cyllid yn rhannol gan Novus Property Solutions, contractwr sydd wedi bod yn gwneud gwaith gwella tai i eiddo yn yr ardal leol. Cyfrannodd Kevin Clague o gaffi Eat With Kev yng Nghanolfan Fenter Brymbo hefyd tuag at y digwyddiad a chefnogodd drwy goginio’r prydau.
Roedd Novus yn gallu ariannu’r digwyddiad fel rhan o gynllun Budd Cymunedol. Mae’n ofynnol i gontractwyr sy’n gwneud gwaith gwella tai ‘roi rhywbeth ychwanegol’ i gefnogi cymunedau lleol a’r economi lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Rogers: “Mae wedi bod yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn ac mae pawb sydd wedi dod wedi ei fwynhau’n fawr. Mae digwyddiadau cymdeithasol fel rhain yn bwysig iawn i’n cynlluniau tai gwarchod felly rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi hyn drwy gynnal y clwb cinio hwn. Rydym yn bwriadu ei wneud unwaith eto’n fuan iawn.”
Dywedodd y Cynghorydd Beverly Parry-Jones: “Hoffwn ddiolch i Novus am helpu gwneud y digwyddiad hwn yn bosibl. Mae wedi bod yn wych cael sgwrsio â’r holl denantiaid heddiw a byddwn yn gefnogol iawn i gynnal rhagor o’r clybiau cinio hyn unwaith eto yn y dyfodol.”
Buddion ychwanegol o fuddsoddiad mewn gwaith gwella tai
Mae cynlluniau Budd Cymunedol fel rhain wedi bod yn bosibl ar draws y fwrdeistref sirol yn ddiweddar, diolch i’r buddsoddiad mwyaf erioed rydym yn ei wneud mewn gwaith i wella tai yng nghartrefi’r cyngor.
Mae £56.4 miliwn wedi ei fuddsoddi yn y rhaglen yn 2017/18. Nod hyn yw ein helpu i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £7.5 miliwn tuag at y buddsoddiad hwn drwy’r grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr, y maent yn ei ddyfarnu i helpu awdurdodau lleol i gyrraedd y safon.
Yn ogystal ag ariannu digwyddiadau cymunedol, mae Buddion Cymunedol hefyd wedi cynnwys hybu cyflogaeth leol, cyflogi prentisiaid modern ac adnewyddu cyfleusterau cymunedol fel neuaddau pentref.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae’n hanfodol fod ein economi leol yn gallu elwa o’r buddsoddiad enfawr sy’n cael ei wneud yn y rhaglen gwelliannau tai. Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o gymunedau lleol yn elwa o’r cynlluniau hyn, yn arbennig grwpiau gwirfoddol sy’n dibynnu ar roddion i gadw eu gwasanaethau i fynd. Rydym wedi gallu cael bob mathau o gyfraniadau cadarnhaol i gymunedau ar draws y fwrdeistref sirol ac mae hyn yn rhywbeth y dylem fod yn falch iawn ohono.”
Os hoffech gael gwybod mwy am Safon Ansawdd Tai Cymru, ewch i wefan y cyngor
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT