Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
newyddion.wrecsam.gov.uk
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CThEM yn lansio ymgynghoriad i fynd i’r afael â phryderon am Asiantau Ad-dalu
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Digital Screens
Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu
Y cyngor Busnes ac addysg
Climate change
Nodi pum cymuned carbon isel
Pobl a lle Busnes ac addysg
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngor Pobl a lle
Illegal tobacco and cigarettes seized.
Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Arall
Wales in Bloom
Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau
Y cyngor Busnes ac addysg Pobl a lle
newyddion.wrecsam.gov.uk
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - Dydd Sadwrn, Mehefin 10
newyddion.wrecsam.gov.uk > Blog > Arall > CThEM yn lansio ymgynghoriad i fynd i’r afael â phryderon am Asiantau Ad-dalu
ArallPobl a lle

CThEM yn lansio ymgynghoriad i fynd i’r afael â phryderon am Asiantau Ad-dalu

Diweddarwyd diwethaf: 2022/06/27 at 10:37 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
HMRC
RHANNU

Erthyl Gwadd – CThEM

Mae mesurau newydd wedi’u cynnig gan Gyllid a Thollau EM (CThEM) i atal asiantau twyllodrus rhag manteisio ar bobl a phocedu’u had-daliadau treth.

Heddiw lansiodd CThEM ymgynghoriad 12 wythnos “Codi safonau ym maes cyngor treth: Diogelu cwsmeriaid sy’n hawlio ad-daliadau treth” i ystyried ffyrdd i ddiogelu trethdalwyr yn well rhag Asiantau Ad-dalu sy’n gwneud hawliadau treth syml ar ran pobl ond sy’n gallu cymryd hyd at hanner o’r taliad, neu hyd yn oed mwy.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

- Cofrestru -
Get our top stories

Mae trethdalwyr yn defnyddio Asiantau Ad-dalu i hawlio ad-daliadau treth, ac mae llawer yn hapus gyda’r hwnnw. Ond ar y llaw arall, mae sawl drethdalwr wedi cwyno bod y gost yn aneglur neu hyd yn oed wedi’i chuddio, tra bod cwestiynau am sut mae rhai asiantau yn taro contract â chwsmeriaid.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig amryw o ffyrdd o ddiogelu’r cyhoedd yn well rhag arferion diegwyddor a sicrhau eu bod yn cael yr arian y mae ganddynt hawl iddo, tra hefyd yn gofyn amryw o gwestiynau i ddeall y broblem yn well.

Mae hyn yn cynnwys cael barn pobl ar y canlynol:

  • cyfyngu ar ddefnydd aseiniadau, sef pan fo contractau’n trosglwyddo’n gyfreithiol yr hawl i ad-daliad o’r trethdalwr i’r asiant
  • cyflwyno mesuriadau gyda’r nod o sicrhau bod trethdalwyr yn gweld gwybodaeth berthnasol am wasanaeth asiant ad-dalu cyn ymrwymo i gytundeb contractiol
  • ei gwneud yn ofynnol i asiantau ad-dalu gofrestru gyda CThEM

Mae CThEM yn ymwybodol o nifer o bryderon penodol ynglŷn â’r diwydiant, gan gynnwys codi crocbris am gomisiynu ad-daliadau treth syml. Fodd bynnag, gall trethdalwyr hawlio’n uniongyrchol drwy wasanaeth ar-lein rhad ac am ddim CThEM ar GOV.UK a chadw 100% o’r ad-daliad eu hunain.

Mae yna hefyd dystiolaeth gref bod llawer o drethdalwyr ddim yn deall telerau eu contract a’u bod yn teimlo eu bod wedi’u camarwain. Mae rhai hyd yn oed yn credu eu bod nhw’n delio’n uniongyrchol â CThEM y hytrach na gyda thrydydd parti.

Mae pryderon eraill yn cynnwys nifer uchel yr hawliadau neu hawliadau heb sail lle nad oes ad-daliad yn ddyledus, gan arwain at oedi gyda hawliadau dilys, yn ogystal â’r defnydd o aseiniadau sy’n golygu bod yr ad-daliad yn mynd i’r Asiant Ad-dalu yn hytrach nag i’r trethdalwr.

Meddai Jonathan Athow, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid:

“Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod trethdalwyr yn cael eu hawliadau treth yn eu cyfanrwydd – gan roi 100% o’r arian sy’n ddyledus iddyn nhw yn eu pocedi – a ddim yn cael eu twyllo gan arferion diegwyddor rhai Asiantau Ad-dalu.

“Nod yr ymgynghoriad ‘Codi safonau ym maes cyngor treth’ yw cael barn pobl fel y gallwn ddeall yn well a mynd i’r afael â’r problemau er mwyn helpu i godi safonau yn y farchnad cyngor ar dreth. Ry’n ni’n annog pawb dan sylw i ymateb i’r ymgynghoriad a rhannu ei brofiadau.”

Mae gan CThEM ddiddordeb mewn clywed barn pob asiant treth, yn enwedig y rhai sy’n arbenigo mewn helpu trethdalwyr i hawlio ad-daliadau; trethdalwyr sydd wedi hawlio ad-daliadau treth drwy asiantau ad-dalu neu sydd wedi ystyried hynny; y rhai sydd wedi gweld hysbysebion gan asiantau ad-dalu; sefydliadau elusennol; grwpiau defnyddwyr; a chyrff cyfrifeg proffesiynol.

Mae CThEM hefyd yn atgoffa trethdalwyr mai nhw sydd dal y gyfrifol am eu treth eu hunain. Os ydynt yn penodi asiant, dylent wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r ffioedd a thelerau ac amodau’r gwasanaeth, ac i beidio rhannu’u manylion mewngofnodi CThEM gyda’r asiant. Mae CThEM wedi cyhoeddi safonau ar gyfer asiantau a bydd yn cymryd camau yn erbyn yr asiantau sy’n mynd yn groes i’r safonau hyn.

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

TALU NAWR

Rhannu
Erthygl flaenorol Newyddion diweddaraf...Amgueddfa Bêl-droed i Gymru ⚽ Newyddion diweddaraf…Amgueddfa Bêl-droed i Gymru ⚽
Erthygl nesaf Ruabon Station Mynediad i Ddefnyddwyr Gorsaf Drenau Rhiwabon yn parhau i fod yn flaenoriaeth

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digital Screens
Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu
Y cyngor Busnes ac addysg Mehefin 8, 2023
Climate change
Nodi pum cymuned carbon isel
Pobl a lle Busnes ac addysg Mehefin 8, 2023
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngor Pobl a lle Mehefin 8, 2023
Illegal tobacco and cigarettes seized.
Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Arall Mehefin 8, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Climate change
Pobl a lleBusnes ac addysg

Nodi pum cymuned carbon isel

Mehefin 8, 2023
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngorPobl a lle

Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam

Mehefin 8, 2023
Illegal tobacco and cigarettes seized.
Arall

Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Mehefin 8, 2023
Wales in Bloom
Y cyngorBusnes ac addysgPobl a lle

Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau

Mehefin 7, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Cofrestru
newyddion.wrecsam.gov.uk
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cofrestru
Prif storiau - tanysgrifwch!

Peidiwch â methu’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Sign up
Rhowch gynnig arno! Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg.

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English