Mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn fudiad rhyngwladol sy’n gweithio gyda dynion a bechgyn i herio diwylliannau sy’n arwain at aflonyddu, cam-drin a chyflawni trais yn erbyn merched.
Rydyn ni’n un o nifer o sefydliadau cyhoeddus sy’n rhan o’r ymgyrch ac yn hyrwyddo ei neges o roi diwedd ar drais yn erbyn merched.
Mae Wrexham & Prestige Taxis, Glan yr Afon, Wrecsam, wedi rhoi eu cefnogaeth i’r ymgyrch trwy roi sticeri hyrwyddol sy’n dangos rhai o’i negeseuon yn eu tacsis.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Dywedodd y Rhingyll Alison Sharp o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae gan yr ymgyrch Rhuban Gwyn bethau hynod o bwysig i’w dweud, a diolch i gwmnïau cerbydau hurio preifat a thacsis Wrecsam, yn cynnwys Wrexham & Prestige Taxis, byddwn yn gallu lledaenu’r neges yn llawer gwell nag o’r blaen, gan annog peidio â derbyn trais yn erbyn merched a, gobeithio, lleihau ac atal troseddau fel hyn.”
Dywedodd Carla Small, Rheolwr Wrexham and Prestige Taxis, “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru i ledaenu neges yr ymgyrch arbennig hwn. Mae sticer y Rhuban Gwyn ar bob un o’n cerbydau i ddangos cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth.”
Dywedodd Joss Thomas, Swyddog Thrwyddedu: “Rydw i’n falch o weld cwmnïau tacsi a hur preifat yn cymryd rhan yn ymgyrch y Rhuban Gwyn.
“Tra mae endidau cyhoeddus megis y cyngor a’r heddlu yn gallu datrys materion megis trais yn erbyn merched, bydd gwelliant i’n waith wrth i partneriaid a wasanaethau ein helpu i gyraedd cynulleidfaoedd sy’n anodd eu cyraedd, a rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am fod yn rhan o’r ymgyrch.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN