Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn gwneud gwahaniaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn gwneud gwahaniaeth
Busnes ac addysg

Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn gwneud gwahaniaeth

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 15, 2019 11:34 am
Rhannu
Darllen 8 funud
Student walking with bag and books
RHANNU

Efallai nad yw’n amlwg ar y pryd, ond mynd i’r ysgol yw un o’r pethau pwysicaf a wnawn ni yn ein bywydau. Gallai osod cyfeiriad gweddill ein bywyd.

Cynnwys
  • Mae pob diwrnod yn gwneud gwahaniaeth
  • Paratoi ar gyfer y byd gwaith
  • Sut mae helpu disgyblion i ddod yn ôl ar y trywydd cywir?
  • “Dos i siarad â rhywun”
  • Paid â gadael i broblemau grynhoi
  • Lle i fynd am gymorth

I’r gwrthwyneb, gallai peidio mynd i’r ysgol osod cyfeiriad ein bywydau ni hefyd…ond heb ganlyniadau cystal.

Felly mae Cyngor Wrecsam yn cydweithio’n agos ag ysgolion, rhieni a disgyblion i geisio helpu plant a phobl ifanc i fynd i’r ysgol bob dydd.

Mae pob diwrnod yn gwneud gwahaniaeth

Pam gwneud môr a mynydd o golli’r ysgol? Ydi colli diwrnod neu ddau yma ac acw yn gwneud gwahaniaeth go iawn?

Ystyriwch hyn…

Mae plant sy’n mynd i’r ysgol yn rheolaidd yn dysgu mwy ac yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus ym mhob rhan o’u bywydau.

Mae plant sy’n colli’r ysgol yn rheolaidd yn cael canlyniadau salach yn eu harholiadau, yn cael trafferth cynnal cyfeillgarwch ac yn fwy tebygol o fod yn rhan o droseddu.

Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o golli allan ar goleg, prifysgol a chyfleoedd am waith ar ôl gadael yr ysgol.

Felly ar wahân i achosion o salwch, dylai plentyn osgoi colli cymaint o ddyddiau ysgol ag sy’n bosib. Gall yr amser rydym ni’n ei dreulio yn yr ysgol gael effaith sylweddol ar ein bywydau.

Paratoi ar gyfer y byd gwaith

Nid arholiadau a chymwysterau yw diwedd y gân chwaith. Mae’r byd gwaith yn mynd yn fwyfwy cystadleuol ac mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi presenoldeb a phrydlondeb da.

Mewn geiriau eraill, maen nhw eisiau cyflogi pobl y gallan nhw ddibynnu arnyn nhw i ddod i’r gwaith…ar amser.

Mae disgwyl i blant a phobl ifanc fynychu’r ysgol am 190 o ddyddiau’r flwyddyn. Dyna i chi 38 wythnos allan o 52. Os gallan nhw wneud hynny, maen nhw’n buddsoddi yn eu dyfodol… ac yn dysgu’r ddisgyblaeth y mae ei hangen i gael a chadw swydd.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Sut mae helpu disgyblion i ddod yn ôl ar y trywydd cywir?

Pan fydd plentyn yn cael trafferth go iawn, bydd gweithwyr cymdeithasol addysg yn helpu’r ysgol i roi cynllun presenoldeb chwe-wythnos ar waith.

Bydd y cynllun yn cynnwys targedau ar gyfer y disgybl a’r rhieni, i’w helpu i gynyddu eu presenoldeb dros amser.

Buom yn siarad ag un person ifanc yn ddiweddar a oedd wedi elwa ar ychydig o gymorth.

Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud…

“Dos i siarad â rhywun”

Sut oeddet ti’n teimlo am yr ysgol pan nad oeddet ti’n mynd yno’n rheolaidd?

“Roedd mam yn sâl iawn gyda thiwmor ar ei hymennydd. Roeddwn i’n crio’n aml ac yn teimlo’n nerfus iawn am nad oeddwn i eisiau gadael mam.

“Roedd rhaid i mam gerdded gyda mi i’r ysgol ac fe fyddwn i’n cydio’n dynn ynddi ac yn gwrthod gollwng fy ngafael arni…am nad oeddwn i eisiau ei gadael hi na mynd i’r ysgol.

“Roeddwn i’n teimlo’n bryderus am fynd i’r ysgol uwchradd am fy mod i newydd adael Blwyddyn 6, ac roedd gen i ofn.

“Roedd yn waeth pan oedd rhaid i mi fynd yn ôl i’r ysgol ar ddiwedd gwyliau a phenwythnosau. Roeddwn i’n nerfus iawn ynglŷn â mynd yn ôl yr adeg hynny…am fy mod i wedi treulio amser gyda mam a bod rhaid i mi ei gadael hi eto.”

Pa fath o gymorth gefaist ti i dy helpu i fynd i’r ysgol yn amlach?

“Fe dreuliais i, a mam, dipyn o amser gyda’r swyddog cefnogi presenoldeb yn fy ysgol. Roedd mam yn mynd am goffi gyda hi am ei bod hithau’n poeni amdana’ i hefyd.

“Doedd gen i ddim llawer o ffrindiau bryd hynny…felly fe fyddwn i’n mynd i ystafell y gweithiwr cymdeithasol addysg amser egwyl ac amser cinio i sgwrsio gyda’r gweithiwr cymdeithasol addysg a’r swyddog cefnogi presenoldeb.

“Fe wnaethon nhw helpu cryn dipyn arna’ i, ac fe gychwynnais i ymddiried ynddyn nhw. Rydw i’n ymddiried yn fawr ynddyn nhw bellach. Roedden nhw’n gadael i mi ffonio adref i wneud yn siŵr fod mam yn iawn pan oeddwn i’n poeni amdani hi.

“Roeddwn i’n hoffi’r syniad yma am ei fod yn fy helpu i beidio poeni cymaint am mam, ac roedd yn helpu mam i beidio poeni cymaint amdana’ innau hefyd.”

Sut wyt ti’n teimlo am yr ysgol erbyn hyn?

“Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd o wahanol ysgolion ac wedi egluro fy sefyllfa iddyn nhw – beth sydd wedi digwydd – ac fe wnaethon nhw wrando arna’ i.

“Maen nhw wedi bod yn garedig iawn gyda fi. Rydw i’n teimlo’n llawer hapusach yn yr ysgol erbyn hyn, ac mae gen i fwy o hyder.

“Mae pawb wedi bod mor gefnogol, ac mae hyn wedi bod o help mawr i mi.

“Fe alla’ i fynd i weld y swyddog cefnogi presenoldeb neu’r gweithiwr cymdeithasol addysg o hyd os ydw i’n poeni neu’n bryderus, sy’n fy helpu i.”

Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth ddisgybl arall sy’n cael trafferth mynd i’r ysgol? Oes yna unrhyw gyngor fyddet ti’n ei roi?

“Dos i siarad gyda rhywun, fel nad wyt ti’n teimlo mor unig nac ofnus. Gofyn am help. Chwilia am rhywun y galli di ymddiried ynddyn nhw, ac fe wnân nhw dy helpu di.

“Paid â bod ofn mynd i’r ysgol uwchradd. Dydi o ddim yn brofiad mor ddychrynllyd ag mae pobl yn ei ddychmygu.”

Paid â gadael i broblemau grynhoi

Dywedodd Ian Roberts, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar Cyngor Wrecsam: “Fel rhiant, un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni eu gwneud i’n plant yw gwneud yn siŵr eu bod nhw’n mynd i’r ysgol.

“Rydym ni i gyd eisiau i’n plant gael y cyfle gorau mewn bywyd, ac mae hynny’n cychwyn gydag addysg. Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn fuddsoddiad yn eu dyfodol.

“Yn yr ysgol y mae plant yn dysgu meithrin cyfeillgarwch, gweithio fel tîm, gweithio i amserlen a bod yn brydlon.

“Dyma’r sgiliau bywyd fydd yn eu helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol, p’un a fydd hynny’n golygu astudio am gymwysterau pellach, cychwyn ar brentisiaeth neu gael swydd ac ymdopi â heriau bywyd o ddydd i ddydd.”

Lle i fynd am gymorth

Os ydych chi’n poeni am bresenoldeb eich plentyn, ewch i siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw yn yr ysgol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/pob-ysgol?_ga=2.115727814.1916943097.1573662430-501437321.1573662430″] CYSYLLTWCH Â’CH YSGOL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cwmni tacsis yn cymryd rhan yn ymgyrch Rhuban Gwyn yr Heddlu Cwmni tacsis yn cymryd rhan yn ymgyrch Rhuban Gwyn yr Heddlu
Erthygl nesaf Paentio Teils! Paentio Teils!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Bethan, Noah a Gill
Busnes ac addysg

“Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Gorffennaf 20, 2026
Youth Services Survey - young peope
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Gorffennaf 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English