Erthygl Gwadd : Sefydliad Pêl-droed Cymru
Mae prosiect diweddaraf Sefydliad Pêl-droed Cymru – mewn cydweithrediad â Sefydliad Johan Cruyff a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – wedi ei ddatgelu yn Ysgol Sant Christopher yn Wrecsam.
Drwy gyllid gan Chwaraeon Cymru roedd Sefydliad Pêl-droed Cymru yn gallu cefnogi’r ysgol arbennig fwyaf yng Nghymru i ddatblygu gofod newydd sbon i gefnogi disgyblion o Ysgol Sant Christopher i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mewn amgylchedd diogel a chyfforddus.
Dywedodd Margaret Davies, Pennaeth Ysgol Sant Christopher:
“Fel ysgol rydym mor falch o’r cyfleuster newydd sbon a’r cyfleoedd mae’n eu rhoi i gynnwys ein holl ddisgyblion. Hoffem ddiolch i Sefydliad Cruyff a Chymdeithas Bêl-droed Cymru am eu cefnogaeth i wireddu hyn ac i’r awdurdod lleol am eu cefnogaeth ac am gydlynu’r rhaglen.”
Dywedodd Aled Lewis, Pennaeth Buddsoddi mewn Cyfleusterau a Gweithrediadau yn Sefydliad Pêl-droed Cymru:
“Mae Sefydliad Pêl-droed Cymru wrth eu bodd yn cefnogi’r prosiect hwn sydd wedi creu cyfleuster gwych i blant a phobl ifanc yn Ysgol Sant Christopher er mwyn iddynt ei fwynhau a gwella eu lles corfforol a meddyliol.
“Diolch yn fawr i’n partneriaid Chwaraeon Cymru am ymwneud â hyn a’u cefnogaeth. Byddwn yn parhau i gydweithio i gyflawni ein gweledigaeth yn ymwneud â Chyfleusterau Pêl-droed ysbrydoledig ac Addas i’r Dyfodol ar hyd a lled Cymru.”
Dywedodd Geraint Richards, Sefydliad Cruyff:
“Rydym wrth ein bodd fod yna ofod diogel newydd ar gyfer chwaraeon wedi ei agor yn Ysgol Sant Christopher. Bydd Cwrt Cruyff yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion a’r gymuned leol i ddod yn egnïol a defnyddio’r gofod diogel hwn i dyfu, datblygu ac yn fwy na dim i gael hwyl.”
Mae Sefydliad Pêl-droed Cymru yn cefnogi datblygu pêl-droed drwy fuddsoddiad ac arweiniad wrth iddo gyflawni ymrwymiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu cyfleusterau pêl-droed ysbrydoledig ac addas i’r dyfodol a fydd yn gwella a hybu pêl-droed Cymru ar ac oddi ar y cae.
GWYBODAETH YCHWANEGOL AM SEFYDLIAD PÊL-DROED CYMRU
- Gweledigaeth Sefydliad Pêl-droed Cymru yw i ddarparu Cyfleusterau Pêl-droed Ysbrydoledig ac Addas i’r Dyfodol i Gymru.
- Cenhadaeth Sefydliad Pêl-droed Cymru yw i ddatblygu cyfleusterau pêl-droed rhagorol, gan arwain at fwy o chwaraewyr a gwell profiadau – gan helpu i wella iechyd a lles y genedl.
- Mae gan Sefydliad Pêl-droed Cymru dair prif flaenoriaeth:
- Gwell profiadau ac amgylcheddau sy’n galluogi cyfranogiad, twf a chadw drwy gyfleusterau o ansawdd sy’n bodloni anghenion y gymuned yn ehangach ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
- Clybiau cryfach a chynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y gymuned gyda mwy o chwaraewyr ar draws yr holl oedrannau a chefndiroedd.
- Cyflawni ein targed o ddyblu’r nifer o fenywod a merched drwy gyfleusterau ysbrydoledig sy’n addas i’r diben.
- Gallwch ddarganfod mwy yma www.cff.cymru.