Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CWRT CRUYFF YN AGOR YN WRECSAM
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > CWRT CRUYFF YN AGOR YN WRECSAM
Pobl a lleBusnes ac addysg

CWRT CRUYFF YN AGOR YN WRECSAM

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 23, 2023 4:13 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
CWRT CRUYFF YN AGOR YN WRECSAM
Photo by Ian Cooper/Ian Cooper Photography.
RHANNU

Erthygl Gwadd : Sefydliad Pêl-droed Cymru

Mae prosiect diweddaraf Sefydliad Pêl-droed Cymru – mewn cydweithrediad â Sefydliad Johan Cruyff a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – wedi ei ddatgelu yn Ysgol Sant Christopher yn Wrecsam.

Drwy gyllid gan Chwaraeon Cymru roedd Sefydliad Pêl-droed Cymru yn gallu cefnogi’r ysgol arbennig fwyaf yng Nghymru i ddatblygu gofod newydd sbon i gefnogi disgyblion o Ysgol Sant Christopher i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mewn amgylchedd diogel a chyfforddus.

Dywedodd Margaret Davies, Pennaeth Ysgol Sant Christopher:

“Fel ysgol rydym mor falch o’r cyfleuster newydd sbon a’r cyfleoedd mae’n eu rhoi i gynnwys ein holl ddisgyblion. Hoffem ddiolch i Sefydliad Cruyff a Chymdeithas Bêl-droed Cymru am eu cefnogaeth i wireddu hyn ac i’r awdurdod lleol am eu cefnogaeth ac am gydlynu’r rhaglen.”

Dywedodd Aled Lewis, Pennaeth Buddsoddi mewn Cyfleusterau a Gweithrediadau yn Sefydliad Pêl-droed Cymru:

“Mae Sefydliad Pêl-droed Cymru wrth eu bodd yn cefnogi’r prosiect hwn sydd wedi creu cyfleuster gwych i blant a phobl ifanc yn Ysgol Sant Christopher er mwyn iddynt ei fwynhau a gwella eu lles corfforol a meddyliol.

“Diolch yn fawr i’n partneriaid Chwaraeon Cymru am ymwneud â hyn a’u cefnogaeth. Byddwn yn parhau i gydweithio i gyflawni ein gweledigaeth yn ymwneud â Chyfleusterau Pêl-droed ysbrydoledig ac Addas i’r Dyfodol ar hyd a lled Cymru.”

Dywedodd Geraint Richards, Sefydliad Cruyff:

“Rydym wrth ein bodd fod yna ofod diogel newydd ar gyfer chwaraeon wedi ei agor yn Ysgol Sant Christopher.  Bydd Cwrt Cruyff yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion a’r gymuned leol i ddod yn egnïol a defnyddio’r gofod diogel hwn i dyfu, datblygu ac yn fwy na dim i gael hwyl.”

Mae Sefydliad Pêl-droed Cymru yn cefnogi datblygu pêl-droed drwy fuddsoddiad ac arweiniad wrth iddo gyflawni ymrwymiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu cyfleusterau pêl-droed ysbrydoledig ac addas i’r dyfodol a fydd yn gwella a hybu pêl-droed Cymru ar ac oddi ar y cae.

[DIWEDD]

GWYBODAETH YCHWANEGOL AM SEFYDLIAD PÊL-DROED CYMRU

  • Gweledigaeth Sefydliad Pêl-droed Cymru yw i ddarparu Cyfleusterau Pêl-droed Ysbrydoledig ac Addas i’r Dyfodol i Gymru.
  • Cenhadaeth Sefydliad Pêl-droed Cymru yw i ddatblygu cyfleusterau pêl-droed rhagorol, gan arwain at fwy o chwaraewyr a gwell profiadau – gan helpu i wella iechyd a lles y genedl.
  • Mae gan Sefydliad Pêl-droed Cymru dair prif flaenoriaeth:
  • Gwell profiadau ac amgylcheddau sy’n galluogi cyfranogiad, twf a chadw drwy gyfleusterau o ansawdd sy’n bodloni anghenion y gymuned yn ehangach ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
  • Clybiau cryfach a chynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y gymuned gyda mwy o chwaraewyr ar draws yr holl oedrannau a chefndiroedd.
  • Cyflawni ein targed o ddyblu’r nifer o fenywod a merched drwy gyfleusterau ysbrydoledig sy’n addas i’r diben. 
  • Gallwch ddarganfod mwy yma www.cff.cymru.
Rhannu
Erthygl flaenorol Learning at Lunchtime Lleoedd Croeso Cynnes yn dod i Lyfrgelloedd Wrecsam
Erthygl nesaf Help a Ranger Day at Alyn Waters Country Park Tarwch olwg ar ein Diwrnod Helpu Ceidwad cyntaf yn Nyfroedd Alun

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English