Doed neb eisiau treulio mwy nag sydd angen yn yr ysbyty. Rydym yn gwybod fod pobl yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan allant adael yr ysbyty unwaith eu bod yn ddigon iach.
Gall gymryd amser i bopeth syrthio i’w le ar ôl cael eu derbyn i’r ysbyty yn arbennig cael y gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen yn aml a chynllunio am ofal tymor hirach.
Rydym eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith gwych i fynd i’r afael â hyn, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ond rydym yn awyddus i brofi’r dŵr ar gyfer cyfleuster newydd a fyddai’n helpu gwneud y daith o’r ysbyty i’r cartref yn esmwythach i bobl sydd ag anghenion gofal tymor hir.
Chwilio am ddarparwyr i gyfleuster newydd
Mae ein hadran Gofal Cymdeithasol i Oedolion, mewn partneriaeth â BIPBC, yn chwilio am ddarparwyr yn y sector gofal a all ein helpu i gynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl gydag anghenion nyrsio ac yn awyddus i ddod allan o’r ysbyty.
Er bod syniadau ar y camau cyntaf, rydym ni a’r Bwrdd Iechyd yn awyddus i weithio ar un cyfleuster, a fyddai’n cynnig lle therapiwtig a chyfeillgar ar gyfer pobl sy’n gadael yr ysbyty ac yn mynd yn ôl i gartref i dderbyn asesiadau.
Mae’r cynlluniau’n dilyn ychydig o waith da iawn gan y Tîm Adnoddau Cymunedol a’r cynllun gwlâu cam i fyny; cam i lawr, gyda’r ddau ohonynt yn helpu pobl gydag anghenion gofal i fynd yn ôl gartref ar ôl yr ysbyty.
Rydym yn awyddus i glywed gan ddarparwyr nyrsio a gofal, yn ogystal â datblygwyr a thirfeddianwyr, a fyddai efallai’n gallu helpu dod â chyfleuster o’r math hwn at ei gilydd.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan contractio GwerthwchiGymru; i gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Megis dechrau ydym ni gyda hyn ar hyn o bryd, ond mae potensial cyfleuster o’r fath – yn arbennig o ystyried y gwaith da a wnaed gan y tîm adnoddau Cymunedol a gwlâu cam i fyny; cam i lawr – yn addawol iawn.
“Byddwn yn annog unrhyw ddarparwyr a allai ein helpu gyda’r prosiect hwn i ymweld â’r dudalen berthnasol ar safle GwerthwchiGymru.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT