Y llynedd, cafodd tua 2,000 tunnell o wastraff bwyd ei ailgylchu gan gartrefi yn Wrecsam.
Mae hynny’n 2,000 o dunelli a fyddai wedi mynd i wastraff, ond yn hytrach wedi ei droi’n gompost ar gyfer parciau, gerddi a rhandiroedd.
Ni fyddem wedi gallu gwneud hynny heb eich cymorth chi – rydym yn ddiolchgar iawn am hynny.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Er mwyn parhau, byddwn yn darparu rholiau newydd o fagiau gwastraff bwyd i holl gartrefi.
Diolch i gyllid gan Llywodraeth Cymru, byddwn yn dosbarthu’r bagiau gwastraff bwyd a ellir eu compostio i gartrefi ar draws y fwrdeistref sirol trwy Hydref a Tachwedd.
Mae hynny’n gyfystyr a thua 60,000 o gartrefu – felly bydd y broses yn cymryd dros fis.
Bydd bob cartref yn derbyn rholyn o 52 o fagiau am ddim, a fydd yn para am oddeutu 17 wythnos i’r cartref cyffredin.
Bydd unrhyw un sydd angen mwy o fagiau angen clymu bag i ddolen eu bin ar ymyl y palmant ar ddiwrnod y casgliad – a bydd rholyn arall yn cael ei adael i chi.
Nid oes unrhyw fath o fwyd yn rhy fach
Cofiwch – nid oes unrhyw swm o wastraff bwyd yn rhy fach i fynd i’r bin gwastraff bwyd.
Wrth gwrs, y peth gorau i’w wneud gyda bwyd yw peidio â’i wastraffu yn y lle cyntaf.
Ond yn amlwg, gyda gwastraff megis croen banana, plisgyn wyau, bagiau te a sbarion plât, mae hynny’n anochel.
Sicrhewch eich bod chi’n eu taflu i’r bin gwastraff bwyd – er mwyn gwneud compost!
Gallwch hyd yn oed ailgylchu pethau fel bwyd wedi llwydo neu wedi darfod ei oes, a phrydau parod (sydd wedi cael eu tynnu o’u pecyn).
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn ddiolchgar iawn i holl gartrefi Wrecsam sydd wedi ein helpu i gynnal ein cyfraddau ailgylchu, ac mae gwastraff bwyd yn chwarae rhan allweddol yn hynny.
“Gall gartrefi gynhyrchu dipyn o wastraff bwyd, felly mae unrhyw swm o hwnnw sy’n cael ei gompostio yn hytrach na’i roi mewn bag du yn rhywbeth da. Gobeithiwn y bydd y ddarpariaeth o fagiau gwastraff bwyd newydd yn helpu pobl i barhau’r arferion da sy’n digwydd yn barod a’n cadw ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed o 70%.”
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU