Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyfreithiau newydd a sut fyddant yn cael effaith arnoch chi a’ch busnes yn ystod y sefyllfa COVID 19
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 23 Hydref
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyfreithiau newydd a sut fyddant yn cael effaith arnoch chi a’ch busnes yn ystod y sefyllfa COVID 19
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Cyfreithiau newydd a sut fyddant yn cael effaith arnoch chi a’ch busnes yn ystod y sefyllfa COVID 19

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 26, 2020 10:22 am
Rhannu
Darllen 4 funud
COVID
RHANNU

Mae ein Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn atgoffa trigolion a busnesau am effaith y cyfreithiau newydd a gaiff eu cyflwyno gan y Llywodraeth er mwyn helpu i leihau lledaeniad COVID 19.

Cynnwys
  • Anwybyddu’r rheolau newydd a luniwyd i’n diogelu rhag COVID 19
  • Gallwch gael eich erlyn a cholli eich trwydded i weini alcohol

Er mwyn lleihau’r lledaeniad COVID 19, mae nifer o fusnesau gwahanol wedi gorfod cau er mwyn dileu unrhyw gyswllt rhwng cwsmeriaid a staff ac i annog pobl i beidio â theithio heb fod angen.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Mae tafarndai, bwytai a chaffis wedi gorfod cau ynghyd â nifer o fusnesau manwerthu eraill. Gellir dod o hyd i restr y Llywodraeth o safleoedd yma.

Mae rhai eithriadau i’r rheolau hyn. Er enghraifft, caniateir i archfarchnadoedd, manwerthwyr bwyd a fferyllfeydd a siopau eraill sy’n gwerthu eitemau hanfodol aros ar agor.

Caniateir i safleoedd prydau parod aros ar agor, ac mae modd i fwytai, tafarndai a chaffis sydd wedi gorfod cau eu gwasanaeth arferol ddarparu gwasanaeth prydau parod.

Mae’n hollbwysig fod busnesau yn cydymffurfio â’r rheolau hyn a bod pobl yn aros gartref gymaint â phosibl, ni ddylai pobl adael eu cartrefi am unrhyw reswm oni bai am y rhesymau penodol sydd wedi’u hamlinellu gan y Llywodraeth er mwyn lleihau lledaeniad y feirws ac i ddiogelu ein GIG er mwyn sicrhau fod pob claf sy’n wirioneddol sâl yn derbyn triniaeth.

Anwybyddu’r rheolau newydd a luniwyd i’n diogelu rhag COVID 19

Ers i’r cyfyngiadau hyn ddod i rym, mae’n braf gweld bod y mwyafrif helaeth o fusnesau wedi ymateb iddynt drwy gau. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod rhai safleoedd wedi bod yn anwybyddu’r rheolau newydd sydd wedi’u llunio i’n diogelu rhag COVID 19 ac rydym wedi cael gwybod am rai tafarndai sydd ar agor i gwsmeriaid, neu’n cau cwsmeriaid i mewn, neu achosion eraill tebyg o dorri rheolau.

Mae hwn yn gyfnod anodd i fusnesau, ac rydym yn hynod ymwybodol o’r effaith ariannol y bydd y mesurau hyn yn ei chael, ond bydd anwybyddu’r cyfyngiadau newydd hyn drwy beidio â chau busnesau yn peryglu bywydau.

Gallwch gael eich erlyn a cholli eich trwydded i weini alcohol

Bydd ein Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd, gan weithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn cymryd unrhyw achos o dorri’r cyfreithiau newydd o ddifri. Gall busnesau sy’n methu â chydymffurfio gael eu herlyn a cholli eu trwydded i weini alcohol.

Dylai unrhyw fusnes sydd ag unrhyw bryderon neu amheuaeth am sut mae’r cyfreithiau newydd ynghylch cau busnesau yn cael effaith arnyn nhw geisio cyngor. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am fusnes sydd ar agor, cysylltwch â ni.

Gellir cysylltu â‘r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd dros e-bost: contact-us@wrexham.gov.uk

Gallwch hefyd ein ffonio ar 01978 292040, ond peidiwch â ffonio os oes gennych chi fynediad at e-byst gan fod ein llinellau ffôn yn hynod o brysur yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Cofiwch fod y mesurau hyn wedi’u gosod er mwyn diogelu iechyd pawb a’r GIG.

Arhoswch gartref, byddwch yn ddiogel a gofalwch am y rhai o’ch cwmpas drwy ddilyn y canllawiau sydd ar gael.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 25.3.20
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 26.3.20

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English