Nid yw’r cyfyngiadau clo lleol a gyflwynwyd yn Wrecsam yn cael effaith ar ysgolion a disgyblion a dylai staff barhau i fynd i’r ysgol.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG
Fodd bynnag, nid yw pethau wedi dychwelyd yn ôl i’r arfer, felly dyma nodyn i’ch atgoffa o beth ddylai pawb sy’n anfon eu plentyn i’r ysgol ofyn i’w plentyn ei wneud i hyrwyddo’r neges ‘cadwch yn ddiogel’ er mwyn Cadw Wrecsam yn Ddiogel.
Dylech wneud y canlynol:
- Dilynwch unrhyw gyngor a gyhoeddwyd gan eich ysgol
- Atgoffwch eich plentyn i orchuddio eu ceg pan fyddant yn tagu neu’n tisian – ble bynnag
- y maent. Ei ddal, ei daflu, ei ddifa!
- Atgoffwch eich plentyn i olchi eu dwylo’n rheolaidd – gan gynnwys cyn ac ar ôl iddynt ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu gludiant i’r ysgol, a phryd bynnag y bydd staff yr ysgol yn gofyn iddynt wneud hynny.
- Os ydych yn gollwng ac yn casglu eich plant, peidiwch ag ymgasglu wrth giatiau’r ysgol, cadwch bellter o ddau fetr oddi wrth rieni eraill (heblaw am aelodau o’ch aelwyd estynedig), dilynwch gyfarwyddiadau’r ysgol a pheidiwch ag aros yn hirach na’r angen.
- Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os ydyn nhw neu unrhyw aelod o’ch cartref yn datblygu symptomau.
- Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os ydyn nhw –neu unrhyw aelod o’ch cartref– wedi derbyn cyngor i gymryd prawf Covid-19 (er enghraifft, gan swyddogion olrhain)
- Sicrhewch fod gan eich plentyn orchudd wyneb i’w ddefnyddio mewn ardaloedd cyffredinol yn yr ysgol
- Peidiwch â rhannu car gydag unrhyw un heblaw am aelodau eich cartref
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer rhieni a staff sy’n teithio i mewn ac allan o’r fwrdeistref sirol. Ewch i gael golwg arno os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG