‘…mae Coombes, prif leisydd Supergrass yn wefreiddiol ar gyrion hysteria’ The Guardian ‘Dyfeisgar drwyddi draw The Times‘perfformiwr unigol gwych’ NME
Mae FOCUS Wales yn falch o gyhoeddi Gaz Coombes fel prif berfformiwr ychwanegol at arlwy 2018, sydd eisoes yn llawn dop o dalent. Bydd Coombes yn perfformio sioe unigol cyfarwydd yn Neuadd William Aston, Wrecsam ar ddydd Sadwrn, Mai 12fed, yn dilyn rhyddhau ei albwm newydd, World’s Strongest Man (ar Fai 4ydd, 2018)
Am bron i ddau ddegawd gyda Supergrass, daeth Gaz Coombes i gynrychioli gwedd wahanol indie Prydeinig a Britpop, ond trwy ei waith unigol newydd y daeth i ganfod ei briod le. Gyda’i albwm Matador yn 2015, cyflwynodd hunaniaeth gerddorol newydd ohono’i hun: eang, emosiynol, sinematig ac yn llawn yr artistig annisgwyl. Hyn a enillodd iddo enwebiad Gwobr Mercury. “Bu bron imi lwyddo i daro tant perffaith gyda Matador …”, meddai. Gyda World’s Strongest Man, mae Coombes yn dod â’r hunan solo i‘w lawn ddiffiniad disglair.
Mae tocynnau ar gyfer y sioe hon ar gael bellach trwy www.focuswales.com/tickets
Mae Tocynnau’r Ŵyl ar werth am ddim ond £40 trwy www.focuswales.com/tickets
a hefyd o Bank St Coffee, Wrecsam, a Siop y Leader, Wrecsam.
Mae FOCUS Wales 2018 yn digwydd dros benwythnos Mai 10fed, 11eg, 12fed mewn sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Mae bandiau llawes mynediad llawn i’r 3 diwrnod i holl ddigwyddiadau FOCUS Wales ar gael erbyn hyn yn http://www.focuswales.com/tickets o £40 yr un.
Mae FOCUS Wales yn cael cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT