Rydym yn falch o gyhoeddi bod y cam caffael ar gyfer prosiect Newbridge bellach wedi dod i ben yn llwyddiannus. Derbyniwyd tendrau ar gyfer y Contract Dylunio ac Adeiladu i drwsio’r tirlithriad ar y B5605 yng Nghoed y Gelli, Newbridge, ac mae’r broses gwerthuso tendrau wedi’i chwblhau yn unol â’r broses gaffael.
Mae’r tendrwr llwyddiannus, Jones Bros Ltd, wedi ennill y contract ac rydym bellach wedi cwblhau’r prosesau caffael angenrheidiol eraill.
Yn dilyn y broses gwerthuso tendr a dilyn prosesau priodol, rydym yn falch o gadarnhau bod y contract wedi cael ei ddyfarnu i Jones Bros Ltd.
Mae ein swyddogion, ynghyd â’n Peirianwyr Ymgynghorol, Atkins Ltd, bellach yn ymgysylltu ac yn gweithio’n agos gyda Jones Bros i ddatblygu a deall eu cynllun a rhaglen waith sydd wedi’i chynllunio a fydd yn galluogi gwaith trwsio a gwaith cysylltiedig i gychwyn, a gweithio tuag at ailagor y ffordd.
Rydym ni’n deall bod y broses hon wedi golygu cyfnod estynedig o amhariad a rhwystredigaeth i gymunedau lleol a’r cyhoedd yn ehangach wrth iddynt deithio, serch hynny mae natur peirianyddol, ecolegol a chytundebol cymhleth y prosiect hwn wedi cyflwyno her unigryw er mwyn sicrhau bod pob proses a dyraniad o arian cyhoeddus yn cael eu rheoli’n briodol a bod y canlyniad gorau’n cael ei gyflawni.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Yr Amgylchedd, “Rydw i’n falch iawn ein bod ni bellach wedi dyfarnu’r contract i drwsio’r tirlithriad i gwmni lleol o’r enw Jones Bros Ltd. Dwi’n gwybod bod swyddogion a’n timau yn brysur yn gweithio gyda’r contractwr llwyddiannus rŵan wrth iddynt roi’r tîm at ei gilydd a datblygu eu rhaglen er mwyn mynd ati i drwsio’r ffordd. Wrth i’r prosiect ddatblygu ac wrth i ni ddeall y rhaglen, byddwn yn rhoi diweddariadau’n rheolaidd wrth i ni edrych ymlaen at ailagor y ffordd.”