Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Arriva Bus Wales wedi cadarnhau y bydd gwasanaethau bws newydd min nos a dyddiau Sul a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dechrau gweithredu ddydd Sul 3 Rhagfyr 2023.
Cafodd y cyllid i gyflwyno gwasanaethau bws ychwanegol ei gymeradwyo gan Fwrdd Gweithredol y Cyngor i helpu i roi hwb i gludiant cyhoeddus i breswylwyr lleol, ac ysbarduno’r farchnad bysiau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros Gludiant Strategol, “Mae lansio’r gwasanaethau bws ychwanegol wedi’i amseru’n berffaith yn y cyfnod cyn y Nadolig, pan fydd nifer o bobl yn ymweld â chanol y ddinas i siopa Nadolig a mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol.
“Mae hefyd yn cyd-fynd â dechrau Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, a thrwy newid hyd yn oed un siwrnai i gludiant cyhoeddus, gallwn ni gyd chwarae ein rhan i leihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Fe fydd y ffocws ar wasanaethau min nos a fydd yn helpu i gefnogi cymunedau lleol a blwyddyn 1 o’n buddsoddiad mewn cludiant cyhoeddus.”
Parhaodd y Cynghorydd Bithell, “Mae Cyngor Wrecsam ac Arriva Bus Wales yn ymroddedig i gynnal gwasanaethau bws a lle bynnag y bo’n bosibl, eu cynyddu ar draws y fwrdeistref sirol ar adeg pan mae nifer o awdurdodau lleol yn ystyried lleihau eu hymrwymiadau gwariant ar gludiant.
“Er mwyn dangos y bartneriaeth sydd gennym ni, rwy’n falch o gyhoeddi y bydd prisiau tocynnau unffordd am £1.00 yn cael eu cynnig ar bob gwasanaeth bws Arriva yn ardal awdurdod lleol Wrecsam ar ôl 7.00pm nos Lun-nos Sadwrn, a thrwy’r dydd ar ddydd Sul yn ystod mis Rhagfyr.”
Dywedodd Adam Marshall, Pennaeth Masnachol Arriva Bus Wales, “Rydym ni’n falch iawn o allu gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Wrecsam i gyflwyno siwrneiau ychwanegol min nos ac ar ddyddiau Sul ar ein rhwydwaith yn Wrecsam.
“Mae’r cynnydd mewn cefnogaeth ariannol gan y Cyngor i’w groesawu, ac mae’n dangos ei ymrwymiad i wella gwasanaethau bws. Tra bod niferoedd teithwyr yn parhau i gynyddu ar ôl Covid, mae nawdd yn dal i fod o dan lefelau blaenorol, ac mae’r gwelliant yma i’r rhwydwaith yn mynd i fod yn allweddol i ddarparu twf ychwanegol. Ar yr un pryd â lansio’r gwasanaethau newydd, fe fyddwn ni hefyd yn diwygio mwyafrif yr amserlenni yn ardal Wrecsam er mwyn gwella prydlondeb. Mae’r amserlenni newydd i’w gweld ar ein gwefan.
“Mae mynediad at wasanaethau bws lleol fforddiadwy yn allweddol i annog pobl i fod â chymysgedd o ddewisiadau teithio ar gael iddynt. Yn ogystal ag ystod o ddewisiadau tocynnau ar draws ein rhwydwaith ar gyfer teithiau dyddiol, wythnosol neu fisol, fe hoffwn i dynnu sylw cwsmeriaid rhwng 16-21 mlwydd oed at docyn FyNgherdynTeithio. Mae’r cynllun yma’n galluogi cwsmeriaid i gael gostyngiad o 30% yn erbyn tocyn oedolyn drwy fod â cherdyn “Fy Ngherdyn Teithio”. Mae modd prynu tocyn Fy Ngherdyn Teithio rŵan ar ein gwefan a’r ap.”
Mae mwy o fanylion ar gael yma https://fyngherdynteithio.llyw.cymru
Fe fydd gwasanaethau yn dechrau ar 3 Rhagfyr 2023, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Comisiynydd Traffig. Mae gwasanaethau wedi cael eu cofrestru gan Arriva ac maent yn aros am gymeradwyaeth.