Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Solutia UK a Glandŵr Cymru – Ymddiriedolaeth Gamlesi ac Afonydd Cymru – wedi cyhoeddi uwchgynllun heddiw ar gyfer Basn Trefor a’r ardal gyfagos, sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte
Mae’r uwchgynllun yn amlinellu gweledigaeth sy’n diogelu treftadaeth ar y safle, yn gwella’r atyniad i ymwelwyr ac yn dod â budd economaidd a chymdeithasol i’r rhanbarth.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae’r uwchgynllun yn cynnwys canolfan ymwelwyr newydd i groesawu pobl i’r safle, gwella ac ehangu’r maes parcio a mentrau masnachol, fel lle cerdded ar frig coed, campio a glampio. Yn amodol ar sicrhau cyllid a buddiannau masnachol, gellir darparu’r cynllun fesul cam dros y tymor byr, canolig a hirach.
Mae Dyfrbont Pontcysyllte a Basn Trefor yn safle o arwyddocâd hanesyddol sy’n denu dros 300,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’r ardal. Mae ei gynnig amwynder presennol yn gyfyngedig ac felly nid yw’r safle’n cyflawni ei botensial llawn o ran annog pobl i aros yn hirach a denu gwariant gan ymwelwyr yn yr ardal ehangach.
Yn y cam nesaf, bydd y partneriaid yn ymgysylltu gyda llywodraethau Cymru a Phrydain i helpu sicrhau’r cyllid sydd angen i ddwyn y cynigion yn eu blaen.
“Creu cyrchfan o safon ryngwladol”
Dywedodd Ian Bancroft, Cadeirydd Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd a Terry Evans, Aelod Arweiniol dros yr Economi “Bydd yn eithriadol o bwysig o ran rheolaeth y Safle Treftadaeth y Byd yn y dyfodol ac yn gatalydd ar gyfer trawsnewid drwy greu cyrchfan o safon rhyngwladol, ac i gyd-fynd â’i statws, i sicrhau effaith cymdeithasol ac economaidd yn lleol ac o fewn rhanbarth Gogledd Cymru.”
“Mae’r Uwchgynllun yn cynnwys nifer o ddatblygiadau cyffrous”
Dywedodd Solutia UK, perchnogion y safle a oedd yn gartref i’r hen ffatri ac yn rhan sylweddol o ardal yr uwchgynllun “Rydym yn hapus iawn i weithio gyda Chyngor Wrecsam a Glandŵr Cymru i ddatblygu’r uwchgynllun. Mae Dyfrbont Pontcysyllte yn ddarn ysblennydd o bensaernïaeth ddiwydiannol ac mae’r uwchgynllun hwn yn cynnwys datblygiadau cyffrous o’i amgylch ac yn y cymunedau cyfagos.
Dywedodd Mark Evans, cyfarwyddwr gyda Glandŵr Cymru, sy’n edrych ar ôl y gamlas a’r ddyfrbont: “Rydym wedi ein cyffroi’n fawr gyda’r newyddion fod gweledigaeth hirdymor yn dod gam yn nes i gael ei gwireddu. Mae’n gynllun uchelgeisiol sydd i fod i ddod a budd ar gymaint o wahanol lefelau – o economi Cymru i’r bobl sy’n mwynhau’r ddyfrffordd eiconig, ar gwch neu ar droed. Mae Dyfrbont Pontcysyllte, sy’n un o ddim ond tri Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru, a Basn Trefor wir yn haeddu’r sylw hwn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid ar y camau nesaf yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”
Cynhyrchu oddeutu £75.7m ar gyfer yr economi
Datblygwyd yr uwchgynllun dros y tair blynedd diwethaf gyda Arcadis Consultancy a Stantec ac mae wedi cynnwys ymgysylltu gyda thrigolion lleol, busnesau a grwpiau amgylcheddol a chymunedol.
Gallai gynhyrchu oddeutu £75.7 miliwn (gwerth presennol) o fuddion ychwanegol i economi Cymru dros y 30 mlynedd nesaf a chynhyrchu £24.6 miliwn mewn effeithiau gwerth cymdeithasol gan ddefnyddwyr hamdden. Gallai wella ansawdd ac amrywiaeth cynnig y safle i ymwelwyr yn sylweddol gan gymell gwariant gan ymwelwyr newydd, a chreu swyddi yn agos at ardal o amddifadedd mawr a helpu gosod sector dwristiaeth Wrecsam mewn sefyllfa fwy cyfartal gyda rhannau eraill o Ogledd Cymru.
Delwedd nodwedd – diolch i Ymgynghoriaeth Arcadis
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG