’Does dim yn waeth na methu eich diwrnod casglu biniau – yn enwedig dros y Nadolig – felly rydyn ni’n gofyn i chi gymryd golwg ar y calendr biniau i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth i’w roi allan a phryd.
Gallwch gael golwg ar y calendr yma.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae’r Nadolig hefyd yn adeg lle mae gennym ni fwy o wastraff ailgylchu a bydd ein gweithwyr yn derbyn gwastraff ailgylchu ychwanegol. Gallwch wahanu’r pethau ychwanegol yn blastig a chaniau, gwydr, papur a chardbord a’u rhoi un ai mewn bagiau plastig clir neu mewn bocsys plastig. Dim bagiau bin duon os gwelwch chi’n dda. Os oes gennych chi fwy o wastraff bwyd, gallwch roi hwn mewn bagiau i’w compostio yn eich cynhwysydd gwastraff bwyd.
Gall unrhyw breswylwyr sydd angen mwy o fagiau glymu bag ar handlen y cynhwysydd bwyd ar y diwrnod casglu/
Gallwch hefyd gasglu mwy o fagiau i’w compostio o unrhyw un o’r 3 canolfan ailgylchu. Lôn y Bryn yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, Lodge Brymbo a Wynnstay Bank Plas Madoc. Darparwch dystiolaeth o’ch cyfeiriad yn y pwynt casglu.
Gallwch roi’r gorau i orfod edrych ar eich calendr yn aml trwy dderbyn e-bost awtomatig a fydd yn cael ei anfon atoch chi y diwrnod cyn mae eich bin neu’ch ailgylchu i gael ei gasglu. Gallwch gofrestru i dderbyn y rhain yma. Nodwch eich cyfeiriad e-bost a chliciwch ar ‘Cyflwyno’ a dewiswch i gael eich atgoffa am y biniau.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN