Gwahoddir trigolion Wrecsam i rannu eu barn fel rhan o adolygiad ar gyfer Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) Wrecsam.
Bydd yr adolygiad yn helpu i nodi blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol i lwybrau cerdded, olwyno a beicio ar draws bwrdeistref sirol Wrecsam, gan gynnwys llwybrau presennol, llwybrau newydd posib, ac ardaloedd lle gellir gwneud gwelliannau.
Gallwch rannu eich adborth a helpu i lunio cynlluniau teithio llesol yn y dyfodol ar CommonPlace.
Fel rhan o’r ymgysylltiad, bydd aelodau’r cyhoedd hefyd yn gallu siarad â swyddogion yn bersonol mewn nifer o leoliadau cymunedol ledled y fwrdeistref.
Sesiynau ymgysylltu
Dydd Iau 9 Ebrill
Canolfan Hamdden Plas Madoc, Ffordd Llangollen, Acrefair, Wrecsam, LL14 3HL
3pm – 4pm
Dydd Gwener 10 Ebrill
Hyb yr Orsedd, The Green, Yr Orsedd, Wrecsam, LL12 0DS
10am – 12pm
Dydd Mawrth 14 Ebrill
Llyfrgell Coed-poeth, Canolfan Adnoddau Plas Pentwyn, Heol y Castell, Coed-poeth, LL11 3NA
1pm – 3pm
Dydd Mercher 15 Ebrill
Llyfrgell Cefn Mawr, Lôn Plas Kynaston, Cefn Mawr, Wrecsam LL14 3AT
2pm – 4pm
Dydd Mawrth 21 Ebrill
Llyfrgell Gwersyllt, Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt, Ail Rodfa, Gwersyllt, LL11 4ED
2pm – 4pm
Dydd Iau 23 Ebrill
Llyfrgell Brynteg, Y Ganolfan Goffa, Ffordd y Chwarel, Brynteg, LL11 6AB
2pm – 4pm
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am leihau carbon, “Rydym am glywed gan gynifer o bobl â phosib fel y gallwn ddeall yn well sut mae llwybrau teithio llesol yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd.”
“P’un a ydych eisoes yn cerdded, yn olwyno neu’n beicio’n rheolaidd neu os hoffech chi wneud hynny’n fwy yn y dyfodol, mae eich barn yn bwysig.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr Aelod Arweiniol dros Wasanaethau’r Amgylchedd, “Byddai’n wych clywed gan drigolion fel y gallwn nodi unrhyw fylchau a gwelliannau sydd angen eu gwneud yn eu cymunedau.”
“Rydyn ni am wneud teithiau dyddiol yn fwy diogel ac yn fwy pleserus i bawb.”



