Mae’r argyfwng costau byw yn anodd ac nid yw pawb yn defnyddio’r rhyngrwyd…felly rydym ni wedi creu rhestr o rifau ffôn defnyddiol i bobl sydd efallai angen cefnogaeth y gaeaf hwn.
Mae’r rhestr yn cynnwys Age Cymru, Cyngor ar Bopeth, Llinell Ddyled Genedlaethol, Banc Bwyd Wrecsam a gwasanaethau eraill, a dyma fenter ddiweddaraf gweithgor trawsbleidiol Cyngor Wrecsam sydd wedi’i sefydlu i roi cymorth i bobl drwy’r argyfwng.
Felly os ydych chi’n gwybod am rywun a allai elwa o gymorth ychwanegol, rhannwch y rhifau ffôn hyn â nhw. Efallai y gallech chi eu hargraffu nhw ar gyfer ffrind, cymydog neu berthynas?
LAWRLWYTHWCH AC ARGRAFFWCH
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, sy’n cadeirio’r gweithgor:
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gofalu am ein gilydd – yn enwedig y rhai mwyaf diamddiffyn, yn union fel y gwnaethom ni yn ystod pandemig y coronafeirws.
“Felly os oes gennych chi ffrind, cymydog neu berthynas sydd efallai angen cymorth ac sy’n annhebygol o’i gael drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd, rhannwch y rhifau ffôn hyn â nhw.
“Gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n ymwybodol bod cymorth ar gael, a bod pobl y gallan nhw siarad â hwy i gael cymorth â grantiau a budd-daliadau, biliau’r cartref a phryderon am arian.”
Sesiynau galw heibio
Yn ogystal â gwybodaeth ar ein gwefan, rydym ni wedi bod yn cynnal digwyddiadau galw heibio ledled y fwrdeistref sirol – lle gallwch chi gael cyngor wyneb yn wyneb ar faterion costau byw.
Ac rydym ni’n cynllunio rhagor ar gyfer y flwyddyn newydd, yn cynnwys:
- Dydd Gwener, 6 Ionawr 2023 – Llyfrgell Gwersyllt, 2pm-5pm
- Dydd Gwener, 20 Ionawr 2023 – Llyfrgell Rhiwabon, 2pm-5pm
- Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 – Llyfrgell Llai, 2pm-5pm
- Dydd Gwener, 17 Chwefror 2023 – Llyfrgell Wrecsam, 10am-2pm
Sesiynau cymorth costau byw yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd drwy’r gaeaf
‘Sŵp a sgwrs’
Ym mis Ionawr, byddwn ni hefyd yn dechrau ein digwyddiadau ‘sŵp a sgwrs’ mewn unedau tai gwarchod ledled y fwrdeistref sirol.
Byddwn ni’n cynnig sŵp poeth a rhôl, a diod boeth i bob un o’n tenantiaid mewn llety gwarchod, a bydd swyddogion tai wrth law i roi cymorth a chyngor ar faterion ariannol a thai.
Mae’n rhan o’n menter mannau cynnes ni a bydd yn rhoi cyfle i rai o aelodau mwyaf diamddiffyn ein cymuned gyfarfod â chymdogion a chael cymorth mewn amgylchedd cynnes a diogel.
Meddai’r Cynghorydd Bithell:
“Mae rhai o’n trigolion mwyaf diamddiffyn ni’n byw mewn llety gwarchod, ac mae hon yn fenter wych a fydd yn helpu tenantiaid sy’n cael trafferthion â chostau byw yn fawr iawn.
“Wrth gwrs, rydym ni’n sylweddoli nad pobl hŷn yn unig y mae angen cymorth arnyn nhw, ac mae swyddogion tai hefyd yn gwneud galwadau ffôn lles ac yn ymweld â’n tenantiaid cyngor mwyaf diamddiffyn.
“Rydym ni yma i gefnogi pobl leol mewn unrhyw ffordd y gallwn, ac mae gan bawb ddyletswydd i ofalu am y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn ein cymunedau.”
Grantiau lleoedd cynnes
Mae sefydliadau lleol wedi mynegi eu diddordeb mewn dod yn ‘lleoedd cynnes’ gyda chymorth ein Grant Lleoedd Cynnes.
Byddwn yn dyfarnu 22 grant yn ystod y cylch cyntaf. Bydd hyn yn helpu i gynyddu nifer y lleoedd y mae modd i bobl fynd iddynt i gadw’n gynnes a derbyn cymorth a chyngor yn ystod y gaeaf.
Mae’r cylch ymgeisio ar agor unwaith eto (ac yn cau ar 12 Ionawr); os oes gennych chi ddiddordeb anfonwch e-bost i warmplaces@wrexham.gov.uk
Meddai’r Cynghorydd Bithell:
“Roedd ein llyfrgelloedd ymysg y mannau cyntaf yn y fwrdeistref sirol i sefydlu mannau cynnes, ac mae croeso i unrhyw un fynd i’n llyfrgelloedd i gadw’n gynnes pryd bynnag maen nhw ar agor.
“Bydd ein grant yn helpu o ran ehangu’r cynllun, ac rydym ni’n prosesu ceisiadau cyn gynted â phosib er mwyn i leoliadau newydd allu cychwyn arni.
“Mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd gwresogi eu cartrefi yn sgil costau ynni, ond drwy gynyddu nifer y mannau cynnes yn y fwrdeistref sirol, gallwn ni o leiaf gynnig mannau i bobl ddod iddyn nhw sy’n gynnes, cyfeillgar a chefnogol yn ystod y dydd.”
Awgrymiadau ar gyfer cadw eich biliau tanwydd i lawr
Mae’n bwysig cadw’n gynnes yn ystod y tywydd oer, ond os ydych chi’n poeni am droi’r gwres ymlaen, dyma rai pethau syml y gallwch chi eu gwneud i helpu i gadw’ch biliau i lawr.
- Mae bylbiau LED yn defnyddio tua hanner yr ynni y mae’r bylbiau arbed ynni mawr troellog yn eu defnyddio. Felly, pan fydd hi’n bryd i chi newid eich bylbiau, beth am roi cynnig ar rai LED.
- Tynnwch eich llenni min nos er mwyn lleihau faint o wres sy’n cael ei golli drwy’r ffenestri, a rhoi’r llenni tu ôl i reiddiaduron fel nad yw gwres yn cael ei ddal.
- Gall fod yn gymharol rad i atal drafftiau yn eich cartref, yn defnyddio pethau sydd ar gael mewn siopau DIY. Fe allwch chi gael rholiau o sbwng atal drafftiau ar gyfer ffenestri. I atal gwynt oer rhag dod i mewn drwy’ch drws ffrynt, beth am gael brws atal drafftiau ar gyfer eich blwch llythyrau neu orchudd ar gyfer y twll clo?
- Defnyddiwch reolau gwresogi, megis thermostatau ac amseryddion i wresogi eich cartref heb wastraffu ynni.
- Os oes yna ystafelloedd nad ydych chi’n eu defnyddio, diffoddwch y rheiddiaduron yno a chaewch y drysau. Cadwch dymheredd eich cartref yn sefydlog a chyfforddus.
- Diffodd dyfeisiau. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni fe allwch chi arbed hyd at £40 y flwyddyn drwy ddiffodd dyfeisiau yn hytrach na’u gadael yn segur.
- Mae hyn yn dweud wrthych chi beth yw pwysedd y dŵr sy’n cylchredeg yn eich system wresogi. Os yw’n rhy isel, bydd yn gwneud eich system yn aneffeithlon ac yn defnyddio mwy o ynni i wresogi’ch cartref.
I gael rhagor o gyngor ar gostau byw, ewch i’n gwefan.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI