Ukrainian guests in at Wrexham Council event

Mae gweithwyr Cyngor Wrecsam wedi cynnal digwyddiad arbennig i Wcrainiad sy’n aros yn y fwrdeistref sirol.

Estynnodd staff yr Adran Dai wahoddiad i westeion o Wcráin fwynhau paned, cacen a bisgedi yn swyddfeydd y Cyngor ar Ffordd Rhuthun, fel rhan o’r ymdrechion parhaus i estyn croeso i ffoaduriaid a’u helpu nhw i deimlo’n ddiogel.

Helpodd staff yr Adran Dai i baratoi lluniaeth ac roedd yr ystafell yn llawn chwerthin a chyfeillgarwch.

Meddai’r Cyng. David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Tai, a helpodd i drefnu’r digwyddiad:

“Roedd yn fore braf ac aeth ein staff gam ymhellach i groesawu ein gwesteion.

“Mae’r rhyfel yn Wcráin wedi gorfodi llawer o bobl o’u cartrefi, ac mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i gefnogi ac estyn croeso i’r rheiny sy’n aros yn y fwrdeistref sirol a gwneud iddynt deimlo’n saff.

“Rydw i’n falch iawn o’n staff – fe wnaethon nhw waith penigamp ac roeddech chi’n gallu teimlo’r cynhesrwydd a’r cyfeillgarwch rhwng pawb.”

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Daeth llawer o weithwyr eraill y Cyngor i’r digwyddiad sy’n helpu teuluoedd o Wcráin, yn ogystal ag Arweinydd y cyngor, y Cyng. Mark Pritchard, a Thîm Datblygu Cymunedol CCPD Wrecsam.

Meddai’r Cyng. Pritchard:

“Bydd hwn yn Nadolig anodd iawn i lawer o bobl y mae eu bywydau wedi’u troi ben i waered oherwydd y rhyfel, ac mae arnom ni angen gwneud popeth o fewn ein gallu i estyn croeso iddyn nhw a gwneud iddyn nhw deimlo’n saff.

“Mae Wrecsam wastad wedi bod yn gymuned gyfeillgar a charedig, ac roedd yn braf gweld ein gwesteion yn mwynhau paned, cacen a sgyrsiau cyfeillgar gyda’n staff. Roedd yn ddigwyddiad braf iawn.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI