Ar 23 Mawrth bydd Cymru yn troi’n goch i gefnogi’r athletwyr Cymreig a fydd yn ein cynrychioli yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia.
Mae’n gyfle i’r genedl gyfan uno a dathlu chwaraeon Cymru a dangos sut rydym yn Ysbrydoli, yn Parchu, ac yn Credu yn ein talent Cymreig yn y byd chwaraeon – boed ar lefel sylfaenol neu ar y lefel uchaf.
Gall pawb gymryd rhan. Edrychwch ar y gystadleuaeth Gynradd ac Uwchradd isod er mwyn gweld y gwobrau cyffrous. Os ydych yn rhan o glwb chwaraeon, clwb ieuenctid, neu os ydych yn mynd i fod yn y swyddfa ddydd Gwener 23 Mawrth, mae cymaint y gallwch ei wneud er mwyn bod yn rhan o ddiwrnod Cymry Coch.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Sut bynnag byddwch yn penderfynu dathlu – dangoswch i’r byd gan ddefnyddio #CymryCoch a lawrlwythwch y delweddau defnyddiol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yma.
Mae wythnos Sport Relief yn rhedeg rhwng 17 a 23 Mawrth felly mae dangos eich cefnogaeth tuag at Dîm Cymru yn amserol iawn. Am fwy o wybodaeth ar Sport Relief a’r Her Camu Ymlaen ewch i https://www.sportrelief.com/
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU