1876 – Blwyddyn arwyddocaol yn hanes Wrecsam
Digwyddodd sawl peth arwyddocaol yn Wrecsam ym mlwyddyn 1876. Fe ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â’r Sir am y tro cyntaf, fe ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn y Wynnstay Arms ar y Stryt Fawr, ac fe sefydlwyd Gweithfeydd Haearn Cambrian gan y Brodyr Powell ar Garden Road ger Gorsaf Gyffredinol Wrecsam.
Fe ddatblygodd y busnes ac fe esblygodd i fod yn ‘Powell Brothers and Whittaker’ gan allforio eu peirianwaith ar draws y byd. Cafodd eu codwr tatws oedd yn cael ei dynnu gan geffyl ei allforio mor bell â Seland Newydd, cymaint oedd eu henw da.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd lleoliad y ffatri mor agos at Orsaf Gyffredinol Wrecsam yn golygu ei fod yn lleoliad perffaith i gynhyrchu mortarau ar gyfer y rhyfel.
Ar ôl y rhyfel, yn fuan yn y 1920au fe fentrodd ffatri Powell i ddylunio a chynhyrchu beiciau modur a chafodd y peiriannau yma hefyd eu hallforio ar draws y byd, yn ogystal ag ymddangos yn Rasys TT enwog ar Ynys Manaw.
Roedd gan John Evan Powell ddiddordeb mawr mewn materion cyhoeddus. Cafodd ei benodi’n Gadeirydd cyntaf Llywodraethwyr Ysgol i Fechgyn Grove Park, ymgynghorydd ar gyfer Deddf Addysg Ganolraddol Cymru, Ynad Heddwch a Thrysorydd Capel Methodistiaid Calfinaidd Seion.
Codi arian ar gyfer cronfeydd yr Eisteddfod
Mae’r bennod ryfeddol hon yn hanes gweithgynhyrchu Wrecsam wedi’i chynnwys yn “The Story of Powell Brothers and Whitaker – Cambrian Ironworks Wrexham” gan Gwynfor Williams.Mae’r llyfr Clawr Caled yn cynnwys 180 tudalen o wybodaeth o testun, ffotograffau a gweithiau celf gwreiddiol a dyluniadau o’r ffatri.
Gwnaed gwaith ymchwil manwl iawn ar gyfer y llyfr yma ac mae’n cynnwys trysor cudd o hysbysebion, lluniau a gwybodaeth nad ydynt ar gael yn unrhyw le arall, ac mae’n lyfr diddorol i’r rheini sydd â diddordeb yn hanes Wrecsam, i beirianwyr a’r rheini sydd â gwybodaeth wyddonol am beirianwaith.
Yn garedig iawn mae’r awdur Gwynfor Williams wedi rhoi 50 o’i lyfrau clawr caled, sydd ar gael am bris arbennig o £10 (RRP £24.95), i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, a bydd yr holl arian yn mynd tuag at gronfa’r Eisteddfod.
Fe allwch chi gael eich copi am bris arbennig iawn a chefnogi’r Eisteddfod drwy fynd i Siop Siwan yn Ty Pawb
Rhywfaint o hanes Gwynfor
Ganed Gwynfor ar fferm ym Mhwllglas yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac roedd peirianwaith amaethyddol o’i amgylch ac yn ei ryfeddu ers yn ifanc iawn. Fe aeth ymlaen i ddilyn gyrfa hir o addysgu a darlithio ac mae o’n Aelod Anrhydeddus o Gymdeithas Darlithwyr ym maes Peirianwaith Amaeth (ALAM) ac mae parch mawr tuag ato fel awdurdod ar Beirianwaith Amaethyddol Cymreig.
Fe ysgrifennwyd llyfr cyntaf Gwynfor The Jones Baler Story, ar ôl i aelod o’r teulu Jones gysylltu ag ef gyda’r bwriad o rannu hanes rhyfeddol y busnes yn Rhosesmor a’r Wyddgrug oedd yn arddangos y Ddraig Goch yn falch ar eu peiriannau oedd yn cael eu gwerthu’n fyd eang.
‘The John Williams Story’ oedd ail lyfr Gwynfor, oedd yn dogfennu’n fanwl stori ryfeddol Gweithfeydd Haearn Phoenix ar lannau Afon Clwyd yn Rhuddlan.
Cafodd trydydd llyfr Gwynfor, The Story of Powell Brothers and Whitaker-Cambrian Ironworks Wrexham ei gyhoeddi yn 2018, ac yn debyg i’r cynnyrch yn y ffatri, mae wedi cael ei werthu ar draws y byd.
Mae Gwynfor yn mynychu’r Eisteddfod yn rheolaidd ac mae’n aelod o Glwb Siarad Cymraeg Preston yn agos at ble mae o bellach wedi ymgartrefu, ac yn garedig iawn, mae o wedi rhoi llyfrau er mwyn cefnogi Eisteddfod Wrecsam eleni.