Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyn pêl-droed a chwrw, roedd Wrecsam yn allforio rhywbeth arall llai adnabyddus a’r ‘gorau yn y byd’…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyn pêl-droed a chwrw, roedd Wrecsam yn allforio rhywbeth arall llai adnabyddus a’r ‘gorau yn y byd’…
Pobl a lle

Cyn pêl-droed a chwrw, roedd Wrecsam yn allforio rhywbeth arall llai adnabyddus a’r ‘gorau yn y byd’…

Diweddarwyd diwethaf: 2024/12/16 at 11:15 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Cyn pêl-droed a chwrw, roedd Wrecsam yn allforio rhywbeth arall llai adnabyddus a’r ‘gorau yn y byd’…
OLYMPUS DIGITAL CAMERA
RHANNU

1876 – Blwyddyn arwyddocaol yn hanes Wrecsam

Digwyddodd sawl peth arwyddocaol yn Wrecsam ym mlwyddyn 1876. Fe ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â’r Sir am y tro cyntaf, fe ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn y Wynnstay Arms ar y Stryt Fawr, ac fe sefydlwyd Gweithfeydd Haearn Cambrian gan y Brodyr Powell ar Garden Road ger Gorsaf Gyffredinol Wrecsam.

Fe ddatblygodd y busnes ac fe esblygodd i fod yn ‘Powell Brothers and Whittaker’ gan allforio eu peirianwaith ar draws y byd. Cafodd eu codwr tatws oedd yn cael ei dynnu gan geffyl ei allforio mor bell â Seland Newydd, cymaint oedd eu henw da.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd lleoliad y ffatri mor agos at Orsaf Gyffredinol Wrecsam yn golygu ei fod yn lleoliad perffaith i gynhyrchu mortarau ar gyfer y rhyfel.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Ar ôl y rhyfel, yn fuan yn y 1920au fe fentrodd ffatri Powell i ddylunio a chynhyrchu beiciau modur a chafodd y peiriannau yma hefyd eu hallforio ar draws y byd, yn ogystal ag ymddangos yn Rasys TT enwog ar Ynys Manaw.

Roedd gan John Evan Powell ddiddordeb mawr mewn materion cyhoeddus.  Cafodd ei benodi’n Gadeirydd cyntaf Llywodraethwyr Ysgol i Fechgyn Grove Park, ymgynghorydd ar gyfer Deddf Addysg Ganolraddol Cymru, Ynad Heddwch a Thrysorydd Capel Methodistiaid Calfinaidd Seion.

Codi arian ar gyfer cronfeydd yr Eisteddfod

Mae’r bennod ryfeddol hon yn hanes gweithgynhyrchu Wrecsam wedi’i chynnwys yn “The Story of Powell Brothers and Whitaker – Cambrian Ironworks Wrexham” gan Gwynfor Williams.Mae’r llyfr Clawr Caled yn cynnwys 180 tudalen o wybodaeth o testun, ffotograffau a gweithiau celf gwreiddiol a dyluniadau o’r ffatri.

Gwnaed gwaith ymchwil manwl iawn ar gyfer y llyfr yma ac mae’n cynnwys trysor cudd o hysbysebion, lluniau a gwybodaeth nad ydynt ar gael yn unrhyw le arall, ac mae’n lyfr diddorol i’r rheini sydd â diddordeb yn hanes Wrecsam, i beirianwyr a’r rheini sydd â gwybodaeth wyddonol am beirianwaith.

Yn garedig iawn mae’r awdur Gwynfor Williams wedi rhoi 50 o’i lyfrau clawr caled, sydd ar gael am bris arbennig o £10 (RRP £24.95), i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, a bydd yr holl arian yn mynd tuag at gronfa’r Eisteddfod.

Fe allwch chi gael eich copi am bris arbennig iawn a chefnogi’r Eisteddfod drwy fynd i Siop Siwan yn Ty Pawb

Rhywfaint o hanes Gwynfor

Ganed Gwynfor ar fferm ym Mhwllglas yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac roedd peirianwaith amaethyddol o’i amgylch ac yn ei ryfeddu ers yn ifanc iawn.  Fe aeth ymlaen i ddilyn gyrfa hir o addysgu a darlithio ac mae o’n Aelod Anrhydeddus o Gymdeithas Darlithwyr ym maes Peirianwaith Amaeth (ALAM) ac mae parch mawr tuag ato fel awdurdod ar Beirianwaith Amaethyddol Cymreig.

Fe ysgrifennwyd llyfr cyntaf Gwynfor The Jones Baler Story, ar ôl i aelod o’r teulu Jones gysylltu ag ef gyda’r bwriad o rannu hanes rhyfeddol y busnes yn Rhosesmor a’r Wyddgrug oedd yn arddangos y Ddraig Goch yn falch ar eu peiriannau oedd yn cael eu gwerthu’n fyd eang.

‘The John Williams Story’ oedd ail lyfr Gwynfor, oedd yn dogfennu’n fanwl stori ryfeddol Gweithfeydd Haearn Phoenix ar lannau Afon Clwyd yn Rhuddlan.

Cafodd trydydd llyfr Gwynfor, The Story of Powell Brothers and Whitaker-Cambrian Ironworks Wrexham ei gyhoeddi yn 2018, ac yn debyg i’r cynnyrch yn y ffatri, mae wedi cael ei werthu ar draws y byd.

Mae Gwynfor yn mynychu’r Eisteddfod yn rheolaidd ac mae’n aelod o Glwb Siarad Cymraeg Preston yn agos at ble mae o bellach wedi ymgartrefu, ac yn garedig iawn, mae o wedi rhoi llyfrau er mwyn cefnogi Eisteddfod Wrecsam eleni. 

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ymweld â chanolfannau ailgylchu dros y Nadolig
Erthygl nesaf Taxi Gwiriwch fod y tacsi rydych yn ei ddefnyddio’n gyfreithlon!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!

Gorffennaf 11, 2025
barbecue cooking in warm weather
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu

Gorffennaf 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English