Mae hi bron yn Noson Tân Gwyllt felly fe aethom ati i roi ychydig o gyngor defnyddiol at ei gilydd i’ch helpu chi i gadw chi’ch hunan a’ch plant yn ddiogel, felly gobeithio y gwnewch chi gymryd munud neu ddau i’w darllen.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Mae’n siŵr y byddwch chi wedi clywed y rhan fwyaf o hyn o’r blaen ond wneith o ddim drwg i ni atgoffa’n hunan o be’ ddylen ni fod yn ei wneud, jest rhag ofn…..
Peidiwch BYTH a thywallt petrol, paraffin na gwirod methyl ar dân. Defnyddiwch flociau cynnau tân.
Peidiwch a phrynu tân gwyllt gan unrhyw un nac o unman amheus – naill ai ar y rhyngrwyd neu’r cyfryngau cymdeithasol. Prynwch eich tân gwyllt gan gyflenwr dibynadwy.
Cofiwch mai dyfeisiadau ffrwydrol ydi tân gwyllt a bod yn rhaid eu gwerthu o dan amodau trwydded er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ddiogel. Dylech eu trin â pharch bob amser.
Ein cyngor ni bob amser ydi, yn hytrach na phrynu eich tân gwyllt eich hun a’r risgiau sy’n gysylltiedig â hynny, beth am fynd i arddangosiad wedi’i drefnu? Mae’r tân gwyllt fel arfer yn llawer iawn gwell a fydd dim rhaid i chi boeni am gynnau tân gwyllt yn ddiogel.
Os byddwch yn defnyddio eich tân gwyllt eich hun, cofiwch ddefnyddio tortsh i ddarllen y cyfarwyddiadau’n iawn ac i weld be’ da’ chi’n neud.
Peidiwch a chodi ffyn gwreichion a thân gwyllt wedi’u defnyddio oddi ar y llawr – maen nhw’n debygol o fod yn boeth iawn ac fe allech ddioddef llosg poenus. Mae ffyn gwreichion yn llosgi ar dymheredd mor uchel a thorsh weldio felly gwisgwch fenig bob amser a byddwch yn ofalus iawn os bydd plant yn eu defnyddio.
Cadwch bwced o ddŵr yn agos rhag ofn y bydd damwain ac os oes gennych beipen ddŵr yn yr ardd, gofalwch bod modd troi’r dŵr ymlaen yn gyflym os bydd angen. Bydd rhain hefyd yn ddefnyddiol i ddiffodd y tân pan fyddwch wedi gorffen.
Peidiwch â gwisgo dillad llac a chlymwch wallt hir yn ôl.
Gadewch i’ch cymdogion wybod eich bod am gael tân gwyllt a faint o’r gloch er mwyn iddyn nhw fod yn barod. Peidiwch byth â chynnau tân gwyllt ar ôl hanner nos ar 5 Tachwedd.
Cadwch eich anifeiliaid anwes yn y tŷ ac os ‘da chi’n pryderu am unrhyw un ohonyn nhw siaradwch â’ch milfeddyg cyn Noson Tân Gwyllt a dilynwch ei gyngor.
Os ‘da chi’n byw mewn ardal wledig cofiwch roi gwybod i berchnogion ceffylau/da byw eich bod yn bwriadu cynnau tân gwyllt er mwyn iddynt nhw allu gwneud y trefniadau priodol ar gyfer eu hanifeiliaid.
Cofiwch os bydd eich arddangosiad yn achosi niwed neu ddifrod y gallech fod yn gyfreithiol atebol ac y gallai gostio’n ddrud i chi.
Os bydd pawb yn dilyn y trefniadau diogelwch cywir ac yn cofio bod camddefnyddio tân gwyllt yn hynod o beryglus, bydd yn noson tân gwyllt da a diogel i ni i gyd.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD